ag oedd yn gyfarwydd â'u harferion, i ddyfod i'r lle, a bod yn ofalus am gadw allan o'r cylch, a dal ffon hir estynedig tua chanol y cylch, ac ar eu gwaith yn myned oddiamgylch yn y dawns gyda'r dyn, y gwnelai y dyn arall gyffwrdd â'r ffon, ac yna y delai ato ei hun i weled y ddaear a'i gydddyn, yr hyn oedd dywyll iddo tra oddifewn i gylch y Tylwyth Teg; a phe na ellid cael gafael ar ddyn ag oedd adnabyddus â ffyrdd y Tylwyth yma, byddai raid i'r dyn a gipid aros yno dros ystod un dydd a blwyddyn, neu yn hytrach hyd nes y byddai yr orymdaith yn newid ei sefyllfa. Y mae traddodiad yn aros hyd y dydd heddyw am ddigwyddiad a gymmeroedd le ar gydiad Lleyn ac Eifionydd, i'r Tylwyth Teg fod yn dawnsio, pryd y canlynid hwy gan beroriaeth felusach nag a ddaeth erioed o enau dyn, ar ddôl deg islaw i amaethdy lled enwog, a bod un o ferched ieuaingc y ty wedi myned i'w gweled, a digwydd iddi fyned yn rhy agos i'r cylch lle y corelwent nes oedd hi wedi ei hennill i fyned gyda hwynt. Cymmerodd hyn le heb yn wybod i'r teulu, medd y chwedl, a bu y ferch ieuangc ar goll am flwyddyn, a'i brawd, yn ol cyfarwyddyd dewin, a'i cafodd yn yr un man, gyda'r Tylwyth Teg. Yr oedd ei brawd i sefyll wrth gwrr y cylch, tra hithau yn mhlith y "teulu bach" yn d'od yn ei thro yn y cylch, ac yntau i ymaflyd ynddi heb fyned i'r cylch ei hunan.
Yn Lleyn yr oedd dyn a fyddai yn arfer gweled y teulu dedwydd yma braidd bob nos. Pan byddai yr haul yn myned dan ei gaerau, a'r niwl yn gorwedd yn isel ar y pantiau, byddai y dyn yn canfod y Tylwyth Teg yn dawnsio a'u holl egni ; ni fyddai yn canfod dim ond eu penau yn ysboncio allan o'r niwl; a phan geisiai fyned atynt, byddent hwythau yn pellhau oddiwrtho. Ryw dro yr oedd brodor o Nefyn ar ei daith adref o