Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ragfynegi digwyddiadau, y byddent weithiau yn gwahodd pobl i'w gwlad, y byddent yn rhoddi dail i iachau cleifion, ac y byddai enaid un yn cael myned i'w gwlad hwy ar ol marw.

Yn Ngarth Dorwen, plwyf Llandwrog, rhyw gyfnod maith yn ol, yr oedd gwr a gwraig yn byw, y rhai a aethant i Gaernarfon i gyflogi morwyn ar ddydd ffair G'langauaf. Yr arferiad gan feibion a merched y pryd hyny oedd, i'r rhai a safent allan am leoedd aros ar ben y Maes presenol wrth boncan ydoedd yn y fan lle y saif y Llythyrfa (Postoffice) presenol; ac aeth yr hen wr a'r hen wraig i'r llannerch yma, a gwelent eneth landeg gyda gwallt melyn, yn sefyll ychydig o'r neilldu i ereill. Aeth yr hen wraig ati a gofynai iddi a oedd arni eisieu lle, tra yr atebai hithau fod. Felly cyflogwyd hi, ac aeth i'w lle ar yr amser penodedig. Byddai yn arferiad y pryd hyny i nyddu ar ol swper, oriau hirnos gauaf, ac arferai y forwyn a myned i'r weirglodd i nyddu wrth oleu y lleuad, a deuai y Tylwyth Teg ati i ganu a dawnsio. Ond rhywbryd yn y gwanwyn diangodd Eilian (canys dyna oedd ei henw) ymaith gyda'r Tylwyth Teg, ac ni welwyd mohoni mwyach. Y mae y cae y gwelwyd hi ddiweddaf yn cael ei alw hyd heddyw yn Cae Eilian, a'r weirglodd yn Weirglodd y Forwyn. Arferai hen wraig Garth Dorwen a rhoi gwragedd yn eu gwelyau, a chyrchai pawb ati o bob cyfeiriad i'r diben hyny. Rhyw dro wele foneddwr yn dyfod at ei drws, ar noson lloergan i'w chyrchu at ei briod, tra yn gwlawio ychydig, a braidd yn niwliog; ac felly aeth yn ysgil y gwr dieithr hyd at Rhos y Court. Yr oedd poncan lled uchel y pryd hyny ar ganol y Rhos, yn debyg i hen amddiffynfa, a llawer o geryg ar yr ochr ogleddol iddi, yr hon sydd i'w gweled hyd heddyw dan yr enw Bryn y Pibion. Pan gyrhaeddwyd y lle,