Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aethant i ogof fawr, yna i ystafell lle yr oedd y wraig yn ei gwely, yr hwn le oedd yr harddaf a welodd yr hen wraig erioed yn ei bywyd. Rhoes y wraig yn ei gwely ac aeth at y tân i drin y baban; ac ar ol gorphen, wele y gwr yn dyfod â photel i'r hen wraig i iro llygaid y baban, gan ei rhybuddio i ochelyd rhag iro ei llygaid ei hun. Ond rhywfodd wedi rhoi y botel heibio, fe ddaeth ysfa ar ei llygad, a rhwbiodd yr hen wraig ei llygad â'i bys, sef y bys â'r hwn yr eneiniai lygaid y maban, a gwelai a'r llygad hwnw y wraig yn gorwedd ar dwmpath o frwyn a rhedyn crinion, mewn ogof fawr, a cheryg mawrion o bobtu iddi, ac ychydig bach o dân mewn congl yno, a gwelodd mai Eilian ei hen forwyn oedd hi, tra â'r llygad arall y gwelai fan y lle ardderchocaf a welodd hi erioed. Yn mhen amser ar ol hyny aeth i farchnad Caernarfon, a gwelodd y gwr dieithr, a gofynai iddo, "Sut yr oedd Eilian?" "O! y mae hi yn bur dda," oedd yr atebiad, gan ofyn iddi, "â pha lygad yr ydych yn fy ngweled i?" A hwn," ebai hithau, gan ei nodi iddo. Cymmerodd yntau babwyren, ac mewn eiliad tynodd ei llygad allan oi phen. Priodolir y chwedl hon hefyd, gyda pheth gwahaniaeth, megis wedi digwydd yn Mhencoed, plwyf Llanarmon, yn gysylltiol â marchnad Pwllheli.

Priodas ag un o'r Tylwyth Teg.—Dywedir yr arferai y Tylwyth Teg ymgynnull i ymgipris a dawnsio ar nosweithiau pan fyddai yn lloergan teg, yn un o weirgloddiau perthynol i fferm Ystrad, Bettws Garmon. Yr oedd gwr ieuangc y fferm un prydnawn wedi myned i lechu gerllaw y fan y byddent yn ymgynnull; ac yn ol eu harfer deuent yno yn llu, a phan oeddynt yn nghanol eu dawns, neidiodd yntau yn mlaen i'w canol, a daliodd un o'r rhyw deg. Brawychwyd y lleill, a diflanasant, yn y fan. Cymmerwyd yr un a ddaliwyd i'r Ystrad