ac yno yr ymddygwyd ati yn hynod garedig nes o'r diwedd y daeth i ymfoddloni gweinyddu fel llawforwyn i'r etifedd ieuangc a'i daliasai, er yr ymddengys iddi omedd mynegi ei henw wrth y teulu. Yn fuan iawn ar ol hyn, canfyddai y gwr ieuangc y Tylwyth Teg yn myned trwy eu campau yn yr un fangre ag o'r blaen, ac wedi dynesu atynt yn llechwraidd, efe a glywodd un yn dywedyd,"Y tro diweddaf y bu'm yma y cipiwyd ein chwaer Penelope oddiarnom gan un o'r marwolion." Achosodd hyn gryn lawenydd yn mynwes y gwr oherwydd cael allan enw yr un a gaethgludasai, ac yna dychwelodd yn ddioedi, a chynygiodd ymbriodi â'r rhian deg, oherwydd yr oedd yn fenyw mor hynod hawddgar, ac ynddi gymhwysderau i wneyd gwraig dda. Anhawdd iawn oedd cael ganddi gydsynio â'r cais; ond trwy ddyfalbarhad a thaerni yn gwasgu y cais, fe lwyddwyd i gael ganddi gydsynio ar yr amod a ganlyn: "Os byth ei tarewai â haiarn ei gadawai ef, ac na ddychwelai ato mwyach." Ffurfiwyd yr undeb rhyngddynt, ac am lawer o flynyddau buont yn cydfyw yn dra dedwydd a llwyddiannus, oblegid fe ddywedir iddo (y gwr ieuangc) dd'od yn un o'r gwŷr cyfoethocaf yn y wlad.
Ond fe ddaeth dydd i wirio yr amod, ac y diflanodd Penelope, ac nas gwelwyd hi mwyach, oherwydd fe ddigwyddodd, fel yr oedd hi a'i gwr un diwrnod yn ceisio dala ceffylau yn un o'r meusydd, i'r gwr daflu y ffrwyn oedd yn ei law at yr anifail, ond yn anffodus ar y wraig y disgynodd, ac nis gwelwyd hi mwyach; ond fe ddywedir iddi ymrithio i ffenestr yr ystafell un noson, a dymuno ar i'w dau blentyn gael gofalu am danynt yn y modd canlynol:
Rhag bod anwyd ar fy mab,
Yn rhodd rhowch arno gob ei dad;
Rhag bod anwyd ar liw'r càn,
Rhoddwch arni bais ei mam.