Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos weithiau yn cyfodi o diriogaeth estronol, ac eto yr effeithiau yn ymestyn, efallai, i'r tiriogaethau cyfagos a chylchynol; eithr nid yw hyny yn gwneuthur y rhan fwyaf o'r defnyddiau yn llai perthynol i sir Gaernarfon.

Nid ydym wedi cyfyngu ein hymchwil i sylwadau deallus egwyddorion dyfnddysg, ddaethant i lawr o'r cynoesoedd; ond eu cymmeryd oddiar lafar gwlad, er mwyn cael yr enghreifftiau cywiraf ag sydd yn aros o lên gwerin yn yr arddull syml ag y gwelodd yr hen bobl yn dda ei gwisgo, heb bwyso ar dde nac ar aswy, er achub rhag difancoll ychydig o'r briwsion o bob math ag sydd yn llercian hwnt ac yma, fel y byddo iddynt fod o wasan— aeth i hanesydd neu athronydd y dyfodol tuag at ffurfio cofadeiladaeth fyddo'n arhwyliad i'n holafiaid o'r llwybrau ar hyd y rhai y daethom at safle gwareiddiad. Er fod genym lawer o hanesion teilwng a hygoel, mewn dysgrifiad synwyrol a defnyddiol, diau fod hefyd yn eu mysg niferi ag sydd yn orchuddiedig gan chwedlau ac ystraeon anghredadwy ag y byddai yn ddoeth eu gadael a'u diarddel. Nid yw y casgliad hwn yn cael ei ystyried gan y casglydd, ond megis un ar brawf, er hwyrach iddo balmantu y llwybrau i rai o'i ganlynyddion, a dwyn i'r amlwg lawer o bethau ag oeddynt wedi myned yn anghof, ac yn agos i ddifancoll.

Y mae hanes yn amlygu mai un o gamweddau Puritaniaeth yw ei bod wedi dibrisio ein traddodiadau cenedlaethol; eithr y mae goleuni gwybodaeth wedi agor ein llygaid i werth y pethau hyn, ac er ei bod yn ddiweddar, dichon y llwyddir gipio rhai cyfrinion telaid oddi rhwng y tonau, cyn y llwyr ysgubir hwy i eigion mawr anghofiant, fel y gwnaed a gormod o honynt eisoes. Na ddibrisier yr encilion—mae llawer o emau gwerth-