yn marchogaeth dros y bryniau cyfagos ar geffylau wedi eu haddurno â chlychau arian.
Nid yw dros gof gan rai am hen ddynyn o'r enw Sion Olfyr, a deithiai Leyn ac Eifionydd o ben bwygilydd i drwsio gograu. Argraffesid arwyddion henaint ar ei wyneb, dechreuai penwyni ar ei goryn, a chrogai ei wallt yn gedenog dros ei glustiau. Bygythid ei ofn ar blant er mwyn ceisio eu heddychu a'u harwain at y ddyledswydd o ufudddod; ac os gwelid dynion dibris ac afler yn eu gwisgiad, buan yr edliwid iddynt hwythau eu bod yn gymhwys gymdeithion i Sion Olfyr. Ni wyddai neb o ba ran o Gymru yr oedd yn enedigol, ond byddai son ei fod yn perthyn i'r Tylwyth Teg o ochr ei fam.
Ryw ysbaid o fisoedd cyn diwedd y ddeunawfed ganrif, aeth gwraig o fwthyn llwydlwm a safai yn mharth dwyreiniol y llechwedd-dir a elwir Mynytho, i amaethfa gyfagos o'r enw Bodwrog, yn mhlwyf Llanbedrog, "i roi diwrnod yn y gwair," a'i phlentyn bychan gyda hi, yr hwn a ddodasai i gysgu yn nghwr un o'r mydylau. Yn mhen encyd o amesr, clywai ei phlentyn, fel y tybiai, yn wylo'n dorcalonus, a rhedai tuag ato yn llygad ac yn glust i gyd, ond erbyn cyrhaeddyd ato, gwelai er ei chyffro nad ei phlentyn hi ydoedd, eithr plentyn perthynol i'r Tylwyth Teg, tra y tad a haerai mai gwedi cyfnewid dan effaith cysgu yn y gwair yr ydoedd, drwy yr hyn y darbwyllwyd y wraig, rhwng dau feddwl, i'w gymmeryd gyda hi adre i'w fagu, ond un amser ni ynganid gair o serch ganddi tuag ato, am y credai ei fod yn fam rhy dda i blentyn Tylwyth Teg. Dyna hefyd dyb llaweroedd tra'n siarad am dano, a mynych y dywedid gan dafod gwlad mai "Ar ol ei deulu y mae . . . yn tynu." Er pob magwraeth a gofal, rhyw goryn bychan, dilewyrch fu ef ar hyd ei oes, gan droi yn feddwyn rheglyd, yr