hyn a ddihysbyddodd ran fawr o fwyniant oes yr hon a'i magodd. Awgryma hynyna, y gellir coelio fod llawer o blant ar ol troi yn afiach a nychlyd, wedi cael eu trin yn greulawn dan y dybiaeth eu bod yn blant y Tylwyth Teg.
Y mae ar dir Carnguwch Fawr, yn mhlwyf Carnguwch, gareg wastad, lydan-fawr, a mynedfa oddi tani, ag y dywed traddodiad yr ardal y byddai y Tylwyth Teg yn arfer cynneu tân dani, ac yn dawnsio ar ei chlawr. Gellir gweled y gareg mewn cae a adnabyddir hyd heddyw wrth yr enw "Cae'r Tylwyth Teg." Dosbarth llariaidd yr ystyrid y rhai hyn, yn byw yn hollol fugeiliol, gan gefnogi yn oestad bob rhinwedd a haelioni. Dywedid mai yn y ddaear yr oeddynt yn byw, ac yn cadw eu llysoedd,—mai trwy lynau o ddwfr yr oeddynt yn myned iddynt ac allan o honynt, a thra chyfnawsaidd â'u natur, yn ol yr hen goel, y cyfrifid llynau Ystumllyn, Afon Wen, a Glasfryn, at yr hwn, yn fwyaf neillduol, yr ymgyrchent yn finteioedd—nid yn ddibwrpas, ond i nyddu â'u troellau bach, gan symud ol a blaen a thrwy eu gilydd, fel "bendith y mamau" yr hen chwedlonau, a chlywid eu swn o bell. O ba le y caffent wlan at eu nyddu, ofer ceisio hysbysebu, eithr tebygol nad oedd bugeiliaid sircynog y mynyddau yn fyr o dalu ymweliadau mynych â hwynt, a phwy wyr nad allasai hyny fod. Cafodd un o'u plant—lodes, y gair ar dafod gwlad o fod yn gwasanaethu yn Nglasfryn, yr hon, fel y gweddai i forwynig fod oedd ddiarebol o dda—yn ei ffordd yn hen ffasiwn allan o bob rheswm—yn fywiog, ofalus, a di-hepian efo'i gwaith. Talai sylw mawr i'r droell fach—nyddai bob cyfle gaffai, a phwy warafunai iddi: a phob amser wrth nyddu, sisialai ganu mewn tawelwch—ond tawelwch gafodd lais—
"Bychan ŵyr fy meistres i,
Mai Jili Ffrwtan ydw' i."