Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr holl o wir hanes yn eu cylch yn ymylu ar fod tu hwnt i brofion. A goelio, coelied; a beidio, peidied.

GWRACH Y RHIBYN.

Tybir mai yn y niwl tew y preswyliai, ac mai anfynych, os byth, yr oedd yn cael ei gweled, eithr yn cael ei chlywed yn ysgrechain yn uchel, ac yr oedd ei hysgrech bob amser yn cael ei hystyried fel argoel o ryw ddrwg ar ddisgyn i ran y sawl a'i clywai. Ymddengys ei bod yn cynnrychioli yr Andras, y Fall, Mam y Drwg, y Wrach, &c., fel rhyw enw mwy cyffredinol. Yr oedd yr Andras yn dduwies a addolid gan yr hen Gymry, ac i'r hon yr aberthent ebyrth dynol. Dengys yr enwau a roddid arni mai un i'w harswydo yn fwy nag i'w charu ydoedd, ac mai nid yn ddiachos y gelwid hi gan rai yn ellyll hedegog, &c. Yr oedd hon yn ofnadwy yr olwg arni—ei breichiau gieulyd, ei hewinedd hirion, ei gwallt attwf, ei danedd duon, a gwelwder marwol ei holl wedd yn ei gwneuthur yn bob peth hagr a dychrynllyd. Y mae yr enw yn amcan—ddesgrifiad o'i llef hir—llaes, yr hon oedd yn ddigon arswydus i rewi gwythenau pawb a'i clywent. Anfynych y gwelid y wrach ei hunan, ond ar groesffordd neu wrth aberoedd, lle y byddai yn curo y dwfr â'i dwylaw—clywid hi yn seinio galarnad am rai ar farw. Os syrthiai y geiriau "Fy ngwraig, fy ngwraig" ar glustiau gwr priod, byddai yn sicr o golli ei gymhar yn fuan, ac yn udo cyn hir yn yr un dôn; ac os clywid ysgrech heb eiriau yr oedd yn debyg mai y gwrandawr ei hunan a rag-rybuddid o'i farwolaeth. Y wrach hon oedd yn troi gwelyau yr afonydd, drwy daflu meini mawrion iddynt pan yn ehedeg o'r naill fynydd i'r llall. Mae yn Hendref Ddu, plwyf Dolbenmaen, gae yn dwyn yr enw "Andras Bach"; ac yn Nanhwynan, ar lan yr afon islaw