y ffordd o Fedd Gelert i Gapel Curig, hen adfeilion mawrion a elwir "Caer Andras." Gelwir dyn drwg yn andras, a gofynir weithiau, "Pa andras sydd ar y dyn?" Ai yr andras a welaist?" &c. Dywed rhai mai Gwrach-yr-oer-boen y dylid ysgrifenu yr enw; ond ereill a farnant mai llygriad o Wrach-yr-ubain yw Gwrach-y-rhibin, am mai ubain, wbian neu ybain yn ofnadwy iawn y byddai.
YR WYLL.
Dywedir mai bod anweledig, ag sydd yn marchogaeth ceffylau ieuainc yn y nos, ac yn eu gyru nes y byddont allan o wynt, ac yn dyferu gan chwys ydyw hwn. Byddent hefyd yn crynu drostynt, ac erbyn y borau byddai y mwng wedi ei ddyrysu drwyddo, a chyffelybrwydd gwrthaflau wedi eu cordeddu ynddo. Mae ebolion yn agored i gael eu poeni gan fath o afiechyd ag sydd yn naturiol o dori allan yn y wedd yma, felly dyma effaith ac achos gwirioneddol yn llechu dan y goeldyb yna, fel llawer o bethau ereill, ag ydynt, fe allai, heb dd'od i'r amlwg. Rhwyll y seinir yr wyll ar lafar gwlad, fel pe yn cymmeryd yr ystyr oddiwrth yr Wyll ag y mae y Beibl yn son am dani yn Esaiah xxxiv. 14, lle y proffwydir dinystr dinasoedd gelynion yr Eglwys, ac y dywedir am eu hannghyfanleoedd hwynt, "Ac anifeiliaid, &c., yr ellyll a eilw ar ei gyfaill; yr ŵyll a orphwys yno, ac a gaiff orphwysdra ynddi."
Y CYHYRAETH.
Yr hyn a olygir wrth Cyhyraeth ydyw ysbryd neu ddrychiolaeth angladd, claddedigaeth, neu gynhebrwng. Ar hyd llawer o oesau ni fu ben draw ar ymddiddanion a gwahanol dybiau yr hen