fawr yn eu mysg—cael agoriad i fyned i mewn i'r gist ydyw'r gamp, a chael beddau'r cof i roddi fyny eu meirw. Nis gall dim fod o fwy dyddor— deb nag ymgydnabyddiaeth â'r hen oesau, ac ar— ferion y bobl yn yr oesau hyny. Amaethyddiaeth yr amser a aeth heibio fu yn diwyllio ein meusydd. Celfyddyd yr hen amser fu'n gwneyd ein ffyrdd, yn agor ein camlesydd, yn llunio ein cwmpawd, a'n dysgu i dramwy llwybrau y dyfroedd dyfnion. Synwyr a gwybodaeth yr oesau gynt fu yn ffurfio ein deddfau, yn darparu a chyfoethogi ein llenyddiaeth. Yr ydym, gan hyny, dan rwymau i'r amser a fu: a byddai yn afresymol ynom beidio cydnabod darpariaethau o'r fath gyda gwir ddiolchgarwch. Ond ar wahân i hyny, mae gormod o duedd yn mhobl y dyddiau hyn i ddiystyru yr hen yn eu gorawydd am y newydd. Ni ddylid gwrthod yr hen, am yn unig ei fod yn hen, mwy nag y dylid gwrthod y newydd am yn unig ei fod yn newydd.
Y mae gwilio y cyfnewidiadau a wneir o oes i oes, yn un o'r pethau mwyaf cydweddol â meddyliau dynion chwaethus a llygad-graff. Mae beth bynag sydd hen, i fesur mwy neu lai yn gyssegredig, eithr nis anurddwn ddim ar ei gyssegredigrwydd trwy olrhain y modd yr effeithia ar, neu yr effeithir arno ef, gan amgylchiadau newyddion. Wrth edrych yn nrych yr henoes, a rhoi trem ar ein hoes ein hunain, oni thueddir ni i ddyweyd, "Y peth a fu a fydd; a'r peth a wnaed a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul."
Mae y Cymry yn cael eu cyhuddo yn fynych o fod yn mhlith y rhai hyny ag sydd yn edrych yn ol, nid edrych yn mlaen, ac y mae lle i ddiolch am y fath geidwadaeth, gan fod iddi lawer o ragoriaethau. Purion yw troi i edrych yn ol, ond cofio mai yn mlaen y mae y daith a'r nod. Ond i