Gwelid y ganwyll yn y nos yn myned ar hyd y ffyrdd y byddai cynhebrwng wedi myned ar hydddynt y diwrnod cynt.
TAN ELLYLL,
neu hudlewyn. Gelwir hwn yn Saesonaeg, Willwith-a-wisp neu Jack-with-a-Lantern.
Math o dân neu oleuni gwanaidd ydyw, ag sydd yn ymddangos yn y nos, yn fynychaf mewn lleoedd corsiog a siglenog, ac yn agos i afonydd a ffosydd dyfrllyd. Y mae weithiau yn rhoddi goleuni disgleiriol, brydiau ereill yn fwy aneglur, ac o liw coch-las. Gwelir y tân hwn weithiau yn canlyn anifail neu ddyn am gryn ffordd, a phan fo rhyw un yn ceisio nesau ato, fe'i canfyddir yn cilio oddiwrtho fel pe b'ai bywyd a gwybodaeth ynddo; a bernir mai yr achos o hyn ydyw ei fod yn cael ei wthio gan yr awyr fo yn cael ei yru gan y sawl fo yn nesau ato, ac mai dyna sail y dyb ei fod yn cael y gair o arwain dynion i byllau a lleoedd diffaeth. Y mae ar dir Cwm Trwsgwl, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant, lecyn o'r enw "Ellyll."
YR HUNLLEF.
Pan y byddo yr Hunllef ar ddyn y mae yn teimlo pwysau mawr a gorthrwm ar ei ddwyfron neu ei galon, ac yn cael ei wasgu yn y fath fodd nes ydyw yn ymdrechu am ei fywyd; ac weithiau y mae yn gallu lleisio, a hyny yn y cyffredin yn y modd mwyaf wylofus. Y mae y meddwl yn ei gyffro a'i derfysg yn dychymygu, megis rhwng cysgu ac effro, ei fod yn gweled dyn neu ryw fath o greadur yn ffoi oddiarno gyda ffrwst. Y cynghor, gan yr hen bobl, i gael ymwared oddiwrth arteithiau yr Hunllef oedd, tynu bysedd y dwylaw drwy fysedd y traed, ac yna eu gosod hwy wrth y trwyn, a thynu yr arogl i fewn yn gryf am