Y mae olion sêr-ddewiniaeth yn ganfyddadwy yn ein gwlad eto. Clywn yn fynych fod un wedi ei eni dan blaned ffodus. Cafodd yr athrawiaeth hon ei gosod yn nghyfundraeth dduwinyddol yr hen bobl drwy eu bod yn duwio holl ranau a galluoedd natur, yn neillduol y bodau wybrenol, ac yn priodoli i'r rhai hyn, nid yn unig fywyd a gwybodaeth, ond hefyd symudiadau rhagddirnadol, a dylanwadau llywyddol ar bob peth isod. Rhanent y wyddor yn ddwy ran naturiol a daroganol. Yr oedd y flaenaf yn rhagddangos digwyddiadau naturiol, megis cyfnewidiad y tywydd a'r gwynt, tymestloedd, taranau, &c., fel pe byddent dan ddylanwad y ser. Bernid fod comedau yn darogan drygfyd dirfawr i genedlaethau y byd, a bernid y drygau yn ol ffurf y comed. Os byddai yn gron, clir, a disglaer, daroganai enedigaeth rhyw dywysog enwog yn ei awdurdod ar y cenedloedd; os ffurf hir-gul a gymmerai, tybid y daroganai golledion mawrion drwy dân, a goresgyniadau anocheladwy o'r fath; os ymddangosai yn dywyll, ddyfrllyd, a'i barf yn ysgwydawl, a thonog, daroganai fradwriaeth yn mhlith y bobloedd, a llifogydd mawrion; os ymddangosai fel corn, daroganai oresgyniad rhyfelgar; felly hefyd os byddai ar lun udgorn. Bernid fod trawsiad planed dros wyneb yr haul yn arwyddo blinfyd, a bod yr oll o'r pethau hyn yn dwyn rhyw argraff o weithredoedd goruwch-naturiol; a gellir hefyd grybwyll diffygiadau, taranau, mellt, daeargrynfäau, y rhai a briodolid unwaith i weithredoedd y diafol.
Cyfeirid at bob rhan o natur braidd, fel yn arddangos, mewn amgylchiadau pennodol, argoelion da, neu ddrwg, o dynged ddyfodol dyn; a daeth hygoeledd i edrych ar gydgyfarfyddiad damweiniol pethau, a flaenorent ryw ddigwyddiad yn mywyd un neu ddau ddyn, fel peth sicr a dieithriad o ganlyniadau cyffelyb achosion pawb.