Ac yn Siring Cros yr ymgadarnha
I fyn'd i'r Bryn Gwyn i gael eisteddfa."
Amserir Robin Ddu o'r flwyddyn 1340 i'r flwyddyn 1370; hefyd o'r flwyddyn 1460 i'r flwyddyn 1560; a'i fod yn enedigol o Landdeiniolen, ac yr adnabyddid yn lled ddiweddar Furddyn Robin Ddu wrth Fryn Adda, yn mhlwyf Bangor, ger Aber-y-Felin, sef Porth Dinorwig fel y noda yn un o'i gywyddau Brut. Ymddengys mai dyn tlawd ydoedd, ond yn un disgleiriaf am awen a gwybodau a feddai ei wlad, a hawdd yw tynu allan o'i waith lawer o ansawdd a helynt yr oes yr oedd yn byw. Ystyrid ef yn ddewin cyfrifol, ac y mae llawer o'i ddaroganau yn aros hyd heddyw. Nid oes odid un hen balas na threflan yn Ngwynedd ar nad ydynt yn dwyn i gof ryw hen goel neu chwedl ddifyrus yn nglŷn â'u henwau, ag y dywedir mai efe a'u daroganodd, megis y bydd i fuwch goch redeg drwy Bwllheli ar ddiwrnod ffair, fel blaen-rybudd o syrthiad y dref i'r llynclyn; y byddai i darw fyned i ben clochdy Llandegwning; y byddai i wyfonen dyfu yn nghwr ffenestr orllewinol Llanbedrog, yr hyn a ddigwyddodd, yn debygol, drwy i awel o wynt chwythu hedyn o'r natur yma i'r lle, neu ynte i aderyn ei gario vn ei gylfin a'i ollwng yno. Priodolir i Robin Ddu gannoedd o chwedlau o gyffelyb natur, megis y llinellau,
"Dwy flynedd cyn daw aflonydd,
Pont ddifai ar Fenai fydd."
Dywedir iddo chwareu llawer o ystrangciau â'r diafol, ac iddo ei siomi a'i dwyllo lawer tro. Addawodd lawer gwaith i'r diafol gael ei gorff ef ar ol iddo farw, a chael ei gario allan drwy ddrws y bwthyn, a thrwy y porth i'r fynwent. Os twyllodd ef yn ei fywyd, credai yr arch-dwyllwr fod