yn anmhosibl iddo ei dwyllo ar ol marw. Gwyliai y diafol yn ddyfal ar Robin yn treulio ei oriau diweddaf yn y byd, rhag iddo gael ei siomi y tro hwn eto. Ond ei siomi a gafodd, fel arferol. Yn ol y cyfarwyddiadau a roddodd Robin i gymmydog iddo fisoedd cyn ei farw pa fodd ac yn mha le yr oeddid i'w gladdu, yr oedd agen i gael ei thori yn mur y bwthyn, a'r arch i gael ei gario allan drwy hono, felly yr oedd y drws i gael ei ochelyd; ac er mwyn gochelyd porth y fynwent yr oedd i gael ei gladdu dan fur y fynwent hanner i mewn ynddi a hanner allan o honi. Gan na chariwyd y corff allan drwy ddrws y bwthyn, nac i borth y fynwent, yr oedd y diafol wedi colli ei hawl arno, ac nid oedd ganddo ddim i'w wneyd ond dychwelyd yn siomedig a gwaglaw. Dywedir mai o'r chwedl hon y tarddodd y tair diareb ganlynol:
1. "Da fod gan y bwystfil a gornia gyrn hirion."
2. "Y ci a lyf y gareg am na fedr ei chnoi."
3. "Paham y llyf y ci y maen? Am nas gall ei ysu."
Y dosbarth arall o frudwyr oeddynt rodreswyr a gymmerent arnynt egluro pethau tywyll, dirgel, a rhagfynegi digwyddiadau dyfodol, drwy gyflawni gwahanol ystrywiau i gyflawni eu rhodreswaith. Os byddai dyn yn meddu ychydig wybodaeth uwchlaw darllen ac ysgrifenu, neu ei fod yn perchen talent a dysgeidiaeth mwy na'i gyfoedion, a thrwy ei fyfyr a'i wybodaeth wedi cael dyfais newydd, ar na fedrent hwy amgyffred, priodolid y peth i'w gyfeillgarwch â Satan, a chredent ei fod mewn cynghrair â'r cythreuliaid, ei fod yn gallu gwneyd i'w ysbrydion ymddangos wrth ei ewyllys, i wneuthur iddo yr hyn oll a ddymunai, pa un bynag ai cyson ai annghyson â natur pethau, a'u halltudio pan fyddai galw am hyny, oddigerth un dosbarth o ysbrydion, yr hwn y byddai