Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

agosrwydd y Rhyllach a Phlas y Ward i'w gilydd yn mantoli, gyda llawer o reswm, i'r ochr olaf.

Hefyd, o herwydd i hen foneddion uchelwaed, ag oeddynt yn byw yn Nghefnllanfair, plwyf Llanbedrog; o anffawd neu amryfusedd, beri tramgwydd i'r hen ddewin dialgar hwn, bu iddo, yn ol ei ewyllys ar y pryd, eu cyfnewid o fod yn bobl cyflawn faint, i gyflwr a chyfnod plentynaidd eilwaith—i sugno, i gael eu siglo, &c. Gwyn fyd na tharawem wrth ei fath yn yr oes hon! Yr oedd ganddo awdurdod i gyfodi yr ysbrydion aflan a gwneuthur iddynt ymddangos, a gallu i'w llywodraethu; ac yr oedd y gallu a'r awdurdod hwn, meddir, naill ai ynddo ef ei hun, neu yn y geiriau a arferid ganddo, neu wedi eu derbyn oddiwrth Dduw. Y mae yn hen draddodiad er ys oesau, ddarfod ei gladdu yn Mwlch-Drws-Wnowl, yn ochr orllewinol yr Eifl, ac y byddai pawb, wrth fyned heibio ei fedd, yn taflu careg arno, nes o'r diwedd i'r fan gyfodi yn garnedd fawr.

Rowland Hughes, gwr cyfarwydd yn nghelfyddyd rhif a mesur, cymmeriad nodedig yn y wlad, enwog yn mysg y werin mewn cyssylltiad ag ofergoeledd, yn cael y gair o fod yn ddewin ac o fod yn gallu nol a danfon pob math o ysbrydion wrth ei ewyllys, oedd yn cadw ysgol ddyddiol yn Llan y Pistyl, lle y digwyddodd i un o'r bechgyn golli ei lyfr, a methu ei gael, er chwilio llawer, a holi y plant oll, ac i'r athraw fygwth nid ychydig, gan ddyweyd y byddai ef yn sicr o ddyfod i wybod pwy oedd wedi ei gymmeryd, ac mai gwae fyddai i hwnw, fod yn well iddo gyfaddef ei fai. Er yr holl fygythion nid oedd dim yn tycio i beri i neb gyfaddef. Ac felly aeth yr athraw i blith y creaduriaid pluog i ymofyn pwy gymmerodd y llyfr. Daeth a cheiliog iar, a chrochan, i'r Llan, a rhoddodd y ceiliog yn y crochan yn fyw, a'r cauad ar y naill ochr arno, gan adael lle i ben a gwddf y ceiliog i ddyfod allan. Gorfodid y plant