ni roddi ystyriaeth briodol i arwyddocâd y gwahanol amserau, cawn fod y presennol yn un cul iawn y dyfodiant â'r tywyllwch trwch yn gorphwys arno yna rhaid i ni wrth olfodiant, er ei fod yntau yn fynych â'r niwl yn do drosto." Y mae yn bleser er hyny, ail feddwl am lawer o ragorion hen bobl ddiniwed "yr amser gynt," er eu holl gamdybiau; a choelio yr ydym fod llawer o'u rhinweddau wedi eu claddu gyda hwy.
Yn mantol y dyddiau hyn ceir fod pobpeth yn myned dan wedd-newidiad, fel nad oes fawr o berygl i neb gredu dim mewn rheibiaeth, dewiniaeth, a swyngyfaredd, na theimlo y cnithiad lleiaf o ofid oddiwrth yr anffodion a gyssylltid âg effaith y deiliach a elwid "dail cysgod y nos," na choelio fod pob pren yn ellyll nosawl, a phob llwyn eithin a rhedyn yn fodau ysbrydol. Cyfrifir hyn am yr anwybodaeth hynod a ddengys aml goel a reolodd y wlad am ganrifoedd; ac am y gwneir llawer o droion safadwy y dyddiau hyn a fuasai yn ngolwg yr hynafiaid yn fawr lai na gwyrthiau; ond daw amser pan y try preswylwyr yr oesau a ddeuant i farnu preswylwyr yr oes hon, ac y byddant yn synu at eu diffygion a'u barbareiddiwch—eu bod yn credu yr hyn ddylent anghredu, ac yn anghredu a ddylent gredu—pob oes yn ei harfer.
Dylem gofio fod defnyddiau ein llenyddiaeth werinol mor wasgaredig, fel nas gellid eu dwyn dan drefn a dosbarth gyda'r manylrwydd a haeddant. Y maent yn cyffwrdd agos a phob peth; megis mynyddoedd, dyffrynoedd. ffynnonau, tymmorau y flwyddyn, y misoedd, diwrnodau yr wythnos, llysiau y maes, dail y coed, anifeiliaid, pysg, y llu asgellog, a mwy-na-mwy o bethau nas gallwn ddirnad eu rhif. Yn gyttun â hyny, y maent yn gymmysgedig yn y llyfryn hwn, nid annhebyg i fel y cawsent eu casglu. A rhag i neb ein beio yn or-