le a elwir yn bresennol Ffridd y Ffold, ar gwrr amaethfa a adnabyddir hyd heddyw wrth ei enw, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant, yr hon, yn awr sydd yn eiddo i deulu y diweddar Mr. David Rowland. Yr oedd muriau yr hen dŷ i'w weled mor ddiweddar ag Awst 1862, pryd y llwyr arloeswyd ymaith yr oll o'r adfeilion, ac y cafwyd fod ar fantell y simdde, yn doredig, y flwyddyn "1562." Perthynai y lle i etifeddiaeth y Plas Hen, a chawn mai Gruffydd Fychan oedd ei etifedd o gylch y flwyddyn 1696.
Oherwydd mawr wybodaeth yr hen ddewin hwn, ystyrid ei fod yn meddu goruwch-wybodaeth, fel y mae amrywiol chwedlau wedi dal yn draddodiadol am dano hyd heddyw, a'i gampau, a'i wyrthiau, a'i broffwydoliaethau yn ddiarebol ar lafar a chof gwlad yn mhob cwrr, megis ei fuddugoliaethau ar yr Un Drwg a'r Tylwyth Teg, y rhai, naill ai o orfod ai o ewyllys, a ufuddhaent i'r hyn a orchymynai efe iddynt. Yn mhlith llawer o'r "rhyw deg" a ddelent ato i gael cwrs eu tynged pwy fyddent eu gwyr, &c., cyfrifir hen nain y diweddar Ellis Owen, Cefn y Meusydd, yr hon, yn ol ei chais a gafodd gan yr hen Ddewin hysbysrwydd y caffai wr, ac y byddai byw ar boncen yn ngolwg haul—ar—godiad, y byddai iddi saith o blant, y ddau olaf yn efeilliaid, ac y byddai hithau farw ar eu genedigaeth. Sicrhai Ellis Owen fod ei ragddywediadau yn gywir—ddarfod i'w hen nain fyned i fyw i'r Tuhwnt-i'r-bwlch, ger Porthmadog, poncen yn ngolwg codiad haul, iddi gael saith o blant, y ddau olaf yn efeilliaid, ac iddi farw ar eu genedigaeth. Glynodd cryn lawer o hynodion ereill perthynol i'r gwr hwn yn nghof y werin, megis y Daith i Philistia, y Potes Ceiliog, &c.
Yr oedd yn y Cenin wr arall, genedigol o'r lle, o'r enw William Robert Huws, yn ddyn hynod