Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn llawer o bethau. Yr oedd ganddo feddwl cryf a gafaelgar, a mesur da o athrylith; ond ei duedd fwyaf oedd at ddewiniaeth yn ei gwahanol gangenau, a medrai egluro pethau felly mor gyfarwydd nes yr aeth y gair allan yn mysg y werin ei fod wedi cael gafael ar lyfrau hen "Ddewin y Cenin." Un tro, tra yr oedd ef gyda chyfaill iddo, ar ben mynydd y Cenin, lle yr ymddangosai lliaws o berchyll mewn modd gwichlyd a chwareus o gylch eu traed, tra y cyfaill yn ei awydd am rai o honynt, a ymaflai ynddynt y naill ar ol y llall, eithr ebrwydd y diflanai pob un rhwng ei ddwylaw; ac yntau, trwy hyny, a ddeallodd nad oedd ffrwyth yr olygfa yn ddim amgen na gweithred ffugiol a gyfodid ar y pryd drwy allu dewinol ei gyd—ymdeithydd i'r lle. Ymfudodd W. R. Huws i America gyda'i wraig a'i blant, a bu farw yno.

Isaac Morys, o Bentyrch Isaf, plwyf Llangybi, athraw morwriaeth, a lluniwr deialau cywrain, a chywir, ydoedd ddyn ag y byddai pawb yn ymwthio ato, ac yn gwrandaw arno. Os byddai i ddadl gyfodi ar unrhyw bwnc, rhoddid pen arni ar unwaith â gair Isaac Morys. Dygid pob achos anhawdd, a phob cwlwm dyrys, o dan ei sylw. Siaradai am y byd hwn ac am y byd a ddaw; am gylchdroadau y ser, a chwyldroadau teyrnasoedd; am foddion iechyd i gorff, ac am ffordd cadw enaid; a phan siaradai efe, tawai eraill a son. Arferai ymwneyd cryn lawer a deongli breuddwydion ac argoelion, yn nghyda chodi a gostwng ysbrydion. Dywed llafar gwerin fod ei weision unwaith mewn cryn helbul am y modd i gael tas o ŷd i'r ysgubor, ac iddo yntau orchymyn iddynt fyned i'w gwelyau yn dawel, y byddai y das ŷd yn yr ysgubor cyn chwech o'r gloch bore dranoeth. Felly y bu, cariwyd hi i'r ysgubor gan fil a mwy o greaduriaid bychain annaearol; rhoddasant hi i lawr vn ei lle priodol, ac yna aethant i ffwrdd gan wneuthur y swn mwyaf brawychus a glywodd clustiau erioed.