Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiwrnod, ac ar ei hol a hwynt nerth y traed: ymlidiasant hi nes yr aeth dros y rhagddor i'w thŷ ei hun. Aeth y cwn dros y rhagddor ar ei hol; ond nid oedd yno ddim ond hen wraig felynddu, grebachgroen, yn eistedd ar 'stôl drithroed wrth y tân, yn tuchan ac yn dyheu, ar golli ei gwynt ar ol y rhedegfa galed.

Yr oedd, wrth enau Afon Wen, plwyf Llanarmon, fwthyn bychan, o'r enw Pendorlan, wedi ei godi gan y tirfeddiannwr, yn yr hwn y preswyliai dwy hen ferch, hynod mewn llawer modd, o'r enwau Lowri Owen a Sian Owen; ond prin y clywodd yr un o'r ddwy eu hunain yn cael eu galw ar eu henwau priodol erioed, oddieithr ar achlysuron pwysig. Er na chawsent eu cynnysgaeddu, megis yn ddymunol, âg iechyd corfforol, gan nas gallai Lowri dramwy heb gymhorth baglau, na Sian ymuniawni yn herwydd anhyblygedd crymedd ei chefn; ond tybid eu bod yn feddiannol ar alluoedd meddyliol lled gryfion, oblegyd yr oeddynt arferol o gadw ysgol ddyddiol, mewn bwth o'r enw Dudwll, yn ymyl Chwilog; ac ystyrid fod ysbryd dewiniaeth yn cartrefu ynddynt—hwynt-hwy oeddynt oraclau eu hardal yn eu hoes—â hwy yr ymofynai pob amaethwr yn nghylch y tymmorau priodol i hau llawer neu ychydig o ŷd, am y credid eu gair ar bwnc y dyfodol yn nghylch prinder, llawnder, drudaniaeth, &c. Golygid y byddent yn gyru ysbrydion aflan allan o bersonau a lleoedd drwy rîn tyngedau a seremonïau, ac y byddent yn cael allan eu rhagwybodaeth am y tymmorau, sefyllfa marchnadoedd, &c., drwy ysgogiadau neillduol yn llanw a thrai y môr, sef codiad a gostyngiad y dyfroedd ar y glanau, fel, os byddai ar adeg y blaen newydd yn digwydd llenwi yn uwch, a threio yn îs, na'r llawn, mai drudaniaeth fyddai ar ran y wlad yn ystod y flwyddyn hono. Os fel arall, llawnder a olygid. Byddent weithiau yn