Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwngial siarad wrthynt eu hunain, a bernid mai dyweyd gweddi yr Arglwydd yn eu gwrthol y byddent yr adegau hyny. Rhoddwyd i'r ddwy hir gred gan y bobl wledig ac anwybodus, eithr min-gamai yr uwch-raddau wrth grybwyll eu henwau.

Yr oedd hefyd hen ddewines, a gyfenwid Sara'r Gadwen, yn byw yn Rhoslan, plwyf Llanystumdwy. Arferai hon wneyd ei gorchestion gwyrthiol drwy ymaflyd yn y gadwen, a mwngial rhyw fath o eiriau i fyny i'r simdde. Proffesai ei bod yn feddyges, a'i bod yn deall dirgelwch cyfansoddiad dyn, anifail, a phob rhyw o lysiau; ac ei bod yn dra chydnabyddus âg ysbrydion, y rhai, yn nghyd a threfn y sêr, a rag-hysbysent iddi, drwy gyfrwng cyfrin y gadwen, bob peth angenrheidiol i'w wybod.

Os byddai gan unrhyw berson elyniaeth yn erbyn ei gymmydog, gallai yn hawdd ei reibio drwy amryw ddulliau, megis trwy blanu nifer dda o binau i gorff llyffant byw, a'i roddi i gadw mewn crochan, gydag enw y sawl y mynid ei reibio ar ei gauad o bobtu; ac hyd nes y caffai y person a reibid felly y crochan a'r llyffant ynddo, yr arosai y felldith arno, pa beth bynag a fyddai. Rai adegau llosgid llyffant wedi ei lanw â phinau, i ddangos na byddai modd symud y felldith o gwbl. Brydiau ereill, teflid llyffant wedi ei binio felly lyn o ddwfr i farw; gwnelid hyn yn benaf gan enethod a fyddent wedi colli o serch eu cariadon, er adennill eu meddwl atynt drachefn. Pan y ceffid pigiad draen, dywedid adnod "am y goron ddrain!" Gwnelid pethau cyffelyb er attal llifiad y gwaed pan y torid gwythïen drwy ryw ddamwain.

Yr oedd llawer eraill o ddulliau o ddewino yn cael eu harferyd, megis y rhai canlynol: