yn ddiweddglo i selio ei dynged, drwy felldith y poeryn arno.
SWYNO'R DDAFADEN WYLLT (TYFADEN WYLLT)
oedd yn cael lle amlwg yn mhlith defodau yr hen bobl. At y ddefod hon arferid rhwbio yr ysgawen yn y ddafaden, ac yna, wedi rhoddi nodwydd neu ddraen drwyddi, cleddid hi mewn tomen, a byddai gwywiad y ddafaden yn ganlyniad, neu yn hytrach yn gymdeithydd naturiol i'w llygriad yn y gladdfa.
CLWYF YR EDAU WLAN
oedd glwyf a ystyrid yn "llwyr anfeddyginiaethol," ond yn unig drwy rinwedd swyn gyfaredd; ac yr oedd rhai o'i nodweddion, megis adgasrwydd at ymenyn, mor debygol i effeithiau y clwyf melyn, fel mai anhebgorol angenrheidiol, yn y lle cyntaf, ydoedd cael boddlonrwydd am natur y clefyd, yr hyn a ddarganfyddid drwy i'r swynwr fesur o bellen o edau wlân gyfrodedd, wedi ei hysgwrio yn wyn ac yn lân, bwt cyhyd dair gwaith ag o ben yr elin i ben y bys. Os yr estynai y pwt edaf hwn, wrth ei fesur dair gwaith yn olynol, yna iach a dianaf y dyn oddiwrth y clwyf; ond cyn wired ag y byddai yr edefyn yn byrhau, yn ol yr unrhyw fesuriad, y byddai'r clefyd wedi ymaflyd yn nghyfansoddiad y claf, a hyny i'r graddau a arddangosid gan fyrhad yr edefyn. Cylymid yr edefyn gan hyny am ei wddf ymofynid am chwart o hen fir, yr hwn a ferwid drwy drochi yn raddol ynddo ddarn o ddur eiriaswyn. Yna cymmerid tua hanner wns o saffrwm mewn llian glân, a chan ei fynych wlychu yn y bir berwedig. gwesgid ei nôdd i'w gymmysgu â'r bir. Ceid saith niwrnod o amser i yfed y cymmysgedd hwn, —y seithfed ran o hono bob borau; a phrofai