Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

estyniad yr edefyn wrth ei fesur drachefn a thrachefn ddylanwad llesol y swyn."

GWELLA'R GWYNEGON.

Yr oedd amryw ffyrdd i wella'r clwyf hwn, neu yn hytrach i'w gadw i lawr. Un ffordd oedd gofalu am roddi hosan am y goes chwith yn gyntaf; a chyda'r canlyniad hapus hwn ceid ymwared, neu yn hytrach esmwythdra lled dda oddiwrth ei effeithiau. Ffordd arall oedd cario dwy bytaten, un bob ochr yn nwy logell y gôt, gan eu trafod a'u troi mor aml ag y caniatâi amgylchiadau ac amser.

Y DRWG LYGAD.

Pedol ceffyl, nid pedol caseg, wedi ei hoelio wrth drothwy y drws, a ystyrid yn meddu digon o ryw rinwedd i droi heibio amcanion maleisus y dewiniaid drwy eu llygad drwg." Hefyd, arferai llawer o hen wragedd diniwed gadw lliaws o geryg ffodus, sef ceryg a thyllau wedi cael eu gwneyd ynddynt—wedi eu hongian i fyny yn y bythynod, gan addef wrth gyfeillion mai eu hamcan ydoedd eu hamddiffyn rhag y llygad drygionus, ag a fyddai yn fynych yn achosi marwolaeth. Yr oedd hefyd "lygad daionus," neu "lygad santeiddrwydd," megis edrychiad arosol a hwyrfrydig cariad mam ar blentyn fyddai yn marw, yr hyn a attaliai ymadawiad yr enaid, ac yn ofer yr ymdrechai y plentyn farw hyd nes y tynai y fam ymaith ei golwg dosturiol oddiarno.

ASGWRN COEL,

sef asgwrn palfes buwch neu ryw anifail arall, a ystyrid yn briodol tuag at egluro y grediniaeth ganlynol; ond nid heb dori twll ynddo â haiarn