Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

modol o fod yn ddiffygiol mewn addasrwydd trefniant, yr ydym, o angenrheidrwydd, dan orfod amlygu ein bod yn coleddu y syniad yr ymddangosant i ni mor resymol o addas yn y dull hwn ag unrhyw ddull arall, oblegyd felly mae bywydcymmysglyd ydyw oll—sobrwydd ac ysgafnder, cyfoeth a thlodi—yn un gymmysgfa fawr.

Nid oes fodd bod yn hyddysg yn ein llenyddiaeth werinol, heb gael gweled y wlad yn llenyddiaeth ei halmanaciau, fwy na dau gant o flynyddoedd yn ol, canys yn y cyhoeddiadau poblogaidd a gwerinaidd hyn y cawn olwg ar wir sefyllfa y wlad ar y pryd, a buasai cyflwr ein teidiau yn anghredadwy i ni, oni b'ai ei fod yn cael ei adlewyrchu arnom yn y drychau gwladaidd hyn; ac yr ydym wedi ymgynghori â hwynt, o almanaciau Thomas Jones hyd almanac John Jones, y Caeau Sion Rhydderch: Evan Davies; J. Harris, Kidweli; Ifan Thomas, Fardd Du; John Prys; Gwilim Howel; Cain Jones: y "Calendar Amserol," y "Drych Amserol," &c., hyd y "Cyfaill Difyr am 1772, ac yn mlaen i'r "Cyfaill Rhydd" am 1835. Tynasom hefyd nifer o hynodion allan o lawysgrifau yr hen oesoedd, y rhai ag yr oedd llwydni amser vn sawru vn drwm arnynt; ac nid dibwys y cyfrifem gynnwys hen lyfrynau gwahanol ddaroganwyr—"Cas gan Cythraul," &c., y rhai sydd yn cynnwys mân gasgliadau syml o lên gwerin a fodolai cyn, ac yn eu hamser hwy, yn gystal ag sydd yn aros hyd heddyw mewn ambell fan.

Y mae llawer o gasglu lên gwerin gwahanol genhedloedd y blynyddau hyn, ac y mae yn ddyledus arnom ddeffroi i gasglu "traddodiadau y tadau," oblegyd y mae pob blwyddyn yn dwyn ymaith i dir anghof, o ychydig i ychydig, ddryllranau tra gwerthfawr o honynt: eto, er hyny, y