Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn meddwl ddarfod iddo gael cam mawr; a thuag at gyflawni y ddyledswydd dderbyniol a gwir angenrheidiol hon, elai i ryw eglwys, gyssegredig i ryw sant enwog, megis Clynog, gan gyflwyno darn o arian i'r sant, yna ymgrymu ar ei benliniau noethion, ac wedi hyny alw i lawr felldithion ac anffodion ar y troseddwr a'i deulu am genedlaethau i ddyfod, ac yn y grêd gadarnaf y caffai y melldithion eu cyflawni i'r llythyren. Ambell waith elid at ryw ffynnon yn lle eglwys.

Coleddid y dyb yn gyffredin fod y Bod Mawr yn gwrandaw gweddïau o'r fath; ac fod y diafol a'i ysbrydion, er mwyn cyflawni eu digllonedd, yn gwneuthur cytundeb â hen bobl, ac yn neillduol felly â hen wragedd, i'w cynnysgaethu â galluoedd goruwch-naturiol, ond iddynt hwy gael eu heneidiau yn y pen draw. Dywed y llyfryn a elwir "Cas gan Gythraul," y byddai y dewiniaid' yn canlyn y Tylwyth Teg, ac y byddai y cyfryw rai yn gwybod yn nghylch pa achosion y byddai personau yn bwriadu dyfod atynt cyn y byddent wedi cychwyn oddicartref, y gwyddent enwau y rhai fyddai yn dyfod, y galwent hwy wrth eu henwau, er mor ddieithrol y tybygid eu bod iddynt, y byddent yn rhagddywedyd marwolaethau dynion, yn rhoddi gwybod yn nghylch pethau fyddent wedi colli, &c. Weithiau, golyga y geiriau dewiniaid a brudwyr ddoethion a dysgedigion, ac megis yn gwbl-gyson â'r enw Cymreig am broffwyd, golyga yr enw dewin un yn proffesu gallu i gynnyrchu effeithiau goruwch—naturiol, rhagfynegu pethau i ddyfod, &c. "Y dewin o Nazareth" oedd yr enw a roddai yr hen feirdd ar Iesu o Nazareth. Pan oedd dysgeidiaeth yn rhywbeth annghyffredin iawn, ystyrid yn ddyledswydd ar y werin i gredu ac i ddilyn dysgawdwr, a pheidio ammheu dim, am y rheswm ei fod yn rhywun uwchlaw y cyffredin; a thrwy hyny cyfyngid gwybodaeth o fewn cylch pennodedig.