Felly, os olrheinir y gwirionedd yn nghylch eu gweithredoedd, eu dull o fyw, &c., rhaid coelio eu bod yn graff iawn i weled beiau ereill, ac i ragddywedyd yr hyn a ddigwyddai iddynt, tra ar yr un pryd na fynent weled eu beiau eu hunain, ac nas gwyddent chwaith eu tynged eu hunain; eu bod yn gweled ac yn gwybod, pe gellid eu credu, bob peth am ereill, ond er hyny yn ddeillion ac yn anwybodus o honynt eu hunain; eithr rhoddwyd iddynt hir gred gan y bobl wledig ac annysgedig. Yn yr oesau hyny, ni oddefai ofergoeledd i ddynion ddarganfod dim newydd defnyddiol am fod cyflawni gwaith neu gludo baich, ond yn yr hen ffordd, yn bechod rhyfvgus!
Yr oedd pethau fel hyn yn rhan hanfodol o gredo y werin, ac yr oedd ysbryd ofergoel yn berthynas agos i ysbryd ofn, ac ofn yw y creulonaf o'r nwydau dynol; y mae lawer gwaith wedi gyru dynion, tyner eu teimladau ar achlysuron ereill, i ymddwyn yn greulawn tuag at y sawl a dybid yn euog o swyno a thyngedu; tra yn fwyaf cyffredin nad oedd y swynwragedd a gospid ddim amgen na hen fenywod anwybodus, yn teilyngu tosturi yn hytrach nag arteithiau.