Barnai rhai mai llun cyfrwy Balaam yw y llinell dywyll ar war yr asyn, ereill mai llun croes Crist; ac nid oedd mo'r amheuaeth lleiaf, gan neb, nad hawdd gweled y gwynt ond yfed llaeth mules. Edrychwch, edrychwch, mam, dacw oen bach y cynta' welais 'leni," meddai bachgenyn. "Na edrycha'i ddim, nes cael gwybod ffordd mae'i ben," ebai'r fam. "Mae'i ben at draw a'i gynffon at yma," ebai'r bachgen. "Dyna hi!".ebai'r fam, buasai yn well i tithau beidio gweled ei gynffon y tro cyntaf. Mae'n ffodus i wel'd ei ben gyntaf, ond anffawd sydd o wel'd ei gynffon gyntaf." Mae mwy o ddal ar bethau fel yna nag mae neb yn feddwl. Os pen yr oen neu ben yr ebol bach cyntaf a welwch fydd tuag atoch, cewch ben a gwyneb y byd atoch ar hyd y flwyddyn; ond os eu cynffonau welwch gyntaf, try'r byd ei gefn arnoch, a byddwch yn aflwyddiannus. Dywedai fferm-wraig yn Lleyn iddi weled cynffon oen yn gyntaf un flwyddyn, a blwyddyn anffodus fu iddi. Aeth dau nythaid o wyau i gloncian dan yr un iar; bu farw caseg ac ebol iddi y flwyddyn hono; ni chawsai ond chwe' llo yn lle deg, a'r flwyddyn hono hefyd y ganwyd Huw, ei mab, a bachgen drwg oedd hwnw; a phe buasai hi wedi gweled pen yr oen yn gyntaf, buasai yn debyg o fod wedi troi yn fachgen da.
"Gwel'd oen du,
Dim lwc i mi."
Nid oedd, chwaith, i'r sawl a dorai fara ceirch â chyllell ffawd ar ei ddefaid—byddent farw bob un. Credid mai ffordd sicr i beri i fuwch ddyfod â llo yn ngoleuni dydd, ac nid yn y nos, oedd gorphen ei hesbio ddydd Sul; hefyd, ar ol i fuwch ddyfod a llo, arferol oedd i'w pherchenog roddi cyfran o arian fel offrwm yn y "cyff "—coffr o fewn i eglwys y plwyf, am y tybid, os na wnelid