ymadawent, yr oedd hyny yn arwydd o aflwyddiant trychinebus, naill ai yn angeuol neu yn rhywbeth arall. Os lleddid un o honynt, byddai y lleill yn sicr o ddial y cam drwy fwyta dillad y noson hono; ac os taflid un o honynt i'r tân, efe a losgai fel rhyw greadur arall; ond os caffai fyned drwy y tân ei hunan, heb i neb ei orfodi, ni losgai ac ni effeithiai y tân arno. Os cedwid tân yn oleu am saith mlynedd heb ddiffodd gymmaint ag unwaith, fe fagai ynddo bryf y tân, sef y salamander, yr hwn allai fyw yn y tân, yr un wedd a'r pysgodyn yn y dwfr, neu yr aderyn yn yr awyr. Gweled malwoden ddu am y tro cyntaf o'r tymhor, ar dir glas ystwyth, neu yn cyd-fyned â chwi, a ddynodai, mor sicr a hyny, y byddai y flwyddyn felly hefyd; ond os i'r gwrthwyneb y byddai, felly hefyd y flwyddyn hono. Gweled malwoden ddu â'i phedwar corn allan, oedd argoel o ffafr werthfawr i ddyfod i'r person hwnw bore dranoeth; ond y falwoden wen, bob amser a ystyrid y bwysicaf, am y byddai yn dwyn yn ei chol gyfrinachau tesni i'r merched ieuainc, canys
"Byddent hwy yn myned allan
I'r murddunod nos wyl Ifan,
Draw i chwilio am falwoden
Wen, i'w rhoddi dan y bowlen;
Boreu wed'yn bydd y merched
Yno'n darllen coel eu tynged:
Llunio gair o lwybr y falwen,
Os bydd O gwna hyny Owen,
Os yn M gwna hyny Morgan,
I bob amser a wna Ifan!
Felly derllyn y morwynion
Hynt serchiadol eu cariadon.
Ond os erys y falwoden
Yn yr unman dan y bowlen,
Argoel ddrwg yw hyny'n wastad
Argoel o farwolaeth cariad;
Neu ryw awgrym na ddaw undyn
Ar eu cyfyl am y flwyddyn;
Ac os drwg yw'r argoel gyntaf,
Gwaeth o'r hanner ydyw'r olaf."