Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod gweled rhifedi anwastad o adar, megis, un, tri, pump, yn hynod anffodiog. Nid elai neb o'r hen bobl i daith yn y byd, os gwelai frân ddu unig yn agos i'w lwybr, oblegyd yr oedd gweled un frân, pan yn cychwyn i daith, yn rhagarwyddo taith anffodus, gwlaw neu dywydd mawr, feallai; ond yr oedd gweled dwy frân yn argoel dda. Gweled brân yn sefyll ar eich llwybr oedd yn dynodi angeu—mewn rhai parthau, arferid dyweyd, y byddai brain yn gadael eu nythod, os yn gyfagos i dŷ ag y byddai marwolaeth wedi cymmeryd lle ynddo, ac na ddychwelent hyd ar ol i'r cynhebrwng fyned drosodd. Byddai rhai o'r hen argoelion hyn hefyd yn cael eu hadrodd mewn math o rigwm, fel yma,

"Brân ddu, braw i mi,
Dwy frân ddu, lwc dda i mi."


"Brân, braw;
Dwy frân, di-fraw;
Tair brân, cariad;
Pedair brân, priodas."


Pan ddigwyddai i fachgen neu eneth ymdroi ar eu neges, ac o'r herwydd ofni cerydd, os gwelent bluen blaen asgell brân ar eu llwybr, ac iddynt ei phlanu yn y ddaear, byddent yn rhydd a diogel oddiwrth gerydd.

PIOD.—Edrychir ar yr adar hyn fel rhai ag sydd a llawer o ddirgelwch yn perthyn iddynt; ac y mae llawer o ofergoeledd yn nglyn â hwynt. Credai pawb, bron, eu bod yn broffwydi, a mawr fyddai y braw os croesai un o honynt lwybr, o ryw gyfeiriad, a dyhuddo llid duwies Ffawd; er gwrthweithio dylanwad drwg yr aderyn, gwneid llun croes â'r troed ar y ffordd y cerddid, a phoerid tros yr ysgwydd dde, gan adrodd dair gwaith,:—