Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae yn foddhâol meddwl y gwneir ymdrech deg y dyddiau presennol, yn y cyfeiriad o'u diogelu, yn yr Almaen, yn Ffraingc, ac yn Lloegr; ac y mae pobl ddarllengar yr Almaen, yn awyddus iawn am gael gafael yn llên gwerin Cymru; a symudiad priodol fyddai casglu llawer mwy o'n llên gwerin, er difyrwch i ni ein hunain, yn ogystal ag i eraill. Gwasanaethant felly ddau amcan neillduol, sef cadw yn fyw lawer o gofion cymdeithasol hen genedl ddewr ac anrhydeddus, a gweinyddu diddanwch a gwybodaeth i'r rhai a'u cadwant yn yr "adgof am a fu."

Digon bellach, os nad gormod-ond cofier mai ein nod penaf ydoedd cofnodi ac nid athrolithio, am fod egluro llawer peth yn llên gwerin Cymru yn gofyn cydnabyddiaeth â llên gwerin Ewrob, ac yn wir â llên ofergoelus y byd yn gyffredinol, yr hyn yw gwaith y chwedlofydd, yn hytrach na gwaith cynnullwr chwedlau lleol. Eithr ni wnaethom yr hyn a ddymunem, o herwydd fod ein dymuniadau da dros ein gwlad yn rhagori filwaith ar ddim allem gyflawni.

Wrth ddiweddu, cydnabyddwn ein rhwymedigaeth neillduol i gyflwyno ein diolchgarwch mwyaf diffuant am lawer o gynorthwy parod ac ewyllysgar i'r Parch. Richard Lloyd, Garth Celyn, Criccieth,-gwr hyddysg yn y gorchwylion hyntra chyfarwydd yn nheithi llenyddiaeth ei wlad a'i genedl, ac agos a bod yn gwybod pob peth.

Yn wladgar,

J. JONES (Myrddin Fardd).

Nadolig, 1908.