Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Adar glân yn seithiau,
Adar aflan dau;
Un golomen yn yr wybren
Yw yr un wyf fi yn ddewis."


Wfft iddi! efo'i hysgrech annghywair, hi a barodd i lawer dyn yn dechreu ar ei daith, ddychwelyd yn ol, drwy groesi y llwybr o'i flaen ar ei haden, yr hyn a ystyrid yn un o'r arwyddion gwaethaf, canys y mae rhywbeth fel adswn rheg a melldith yn ei hysgrech; a thybiai llawer fod y cyfryw edn brithlas yn eu rhegi wrth deimlo eiddigedd dros ei nyth a'i gywion. Canfod dwy yn nghyd a ddynodai briodas neu ryw lawenydd; tair, taith lwyddiannus; pedair, newydd da annisgwyliadwy; pump, y byddai i'r sawl a'u gwelai hyderu y caffai fyned i gwmniaeth uchel. Trydar y piod a ragflaenai ymweliad dieithriaid; ond aml ac amrywiol oeddynt y deongliadau a gyssylltid â'r argoelion mewn gwahanol barthau o'n gwlad: eithr nid oedd o'r naill na'r llall o honynt gysgod troedigaeth, heblaw y blaenaf, canlyniadau yr hwn y gellid eu gochelyd, a'u dadgyfareddu drwy roddi tri chwyldro amserol. Mewn rhai manau yr oedd yn arferiad pengrymu i'r aderyn pan welid ef; ond ei ladd a ddygai anffawd arswydus. Gellir dyfalu mai yr achos fod pioden pan wrthi ei hunan yn argoel o ddrygioni, yw, bod piod yn gyffredin yn ehedeg gyda'u gilydd, oddieithr ar ddynesiad dryghin, pryd y gorfydd ar un aros yn y nyth i achlesu y rhai ieuaingc, tra byddo y llall yn crwydro am ymborth. Am yr un rheswm hefyd y mae pioden ar ei phen ei hun yn goel anffodus i bysgotwyr, tra y mae dwy yn rhagddangos hin ffafriol. Dywedir mai yr achos o'r atgasrwydd at yr aderyn hwn yw yr hen draddodiad mai efe oedd yr unig un o'r ehediaid a wrthododd fyned i'r arch, ac iddo eistedd ar ben yr arch i glegar uwch ben y byd oedd yn cael ei foddi, a byth ar