ol hyny ystyrir ef yn aderyn anffodus, anufudd, beiddgar, ffals, ac ysbeilgar.
Y CEILIOG.—Aderyn hynod gyfarwydd yn helyntion ein gwlad oedd y ceiliog, ei grechwen soniarus ef yn y plygain fyddai yn ddigon o awgrym i bob bwgan a drychiolaeth ffoi i wlad yr hud lonydd, cyn i oleuni dydd eu dangos, a'u dwyn i warth, gan y byddai ysbryd, fel y gwyr pawb, yn cael braw neillduol wrth glywed ceiliog yn canu—gymmaint fel y diflanai yn y fan, pe ar hanner agor ei enau i ddyweyd rhywbeth. Gwr go ddrwg oedd efe, os na fyddai yn gwybod ei wers yn dda, ni feiddiai ganu pryd y mynai; yr amser anmhriodol iddo ganu ydoedd o wyth, neu cyn hyny, i ddeuddeg; os canai y pryd hyny, byddai ei ben mewn perygl o gael ei dori—a phaham? Am ei fod yn anturio dywedyd y byddai aflwyddiant i'r teulu, mewn amgylchiadau bydol, iechyd, ac hyd y nod farwolaeth; crynai ei berchenog rhag ofn mai galw arno ef neu un o'i deulu i fod yn barod yn wyneb angeu y byddai, yn fwy diamheuol felly os byddai ei ben at y tŷ, ac o'r goel-dyb hono y tarddodd y ddiareb, "Ni bydd moesawg merch a glywo geiliog ei thad." Cafodd llawer hen broffwyd ei lofruddio o'r achos, drwy i aml wraig ddyweyd wrth ei gwr, "Os na laddwch yr hen geiliog y felldith yna, byddwn farw bob un!" yr hyn yn ddiau oedd yn dirymu y broffwydoliaeth.
Ow geiliog bach! dychrynaist lawer teulu ath gân anmhrydlawn! anhawdd oedd i neb dy roesawu oni chenit yn amserol, a hyny o un o'r gloch i doriad y wawr. Ond yn wir, o ran a greda unrhyw deulu, yn yr oes hon, ynot ti na dim arall, gelli ganu pryd y mynot, ond iti beidio canu ar eu bwrdd wedi'th ferwi yn eu crochan. Yr oedd clywed iar yn canu yn debyg i geiliog yn rhagfynegydd tra dinystriol hefyd; ac yr oedd lliw y ceiliog, yn ogystal a lliw cath, o gryn bwys; a phrin y gwyddai neb