Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pa un waethaf o honynt; a'r cynghor yn eu cylch fyddai,

Ceiliog gwyn na chath ddu,
Na chadw rhai'n yn nghylch dy dŷ."


Priodola "Y Cennad oddiwrth y ser, neu Almanac am y flwyddyn 1709," i'r ceiliog yr aml rinweddau hyn:

"Y Ceiliog sydd Organ y nos, a Rhingyll y dydd, a Bardd y tywyllwch, tarfwr yr ysbrydion drwg, a gwahoddwr yr ysbrydion da, ac arwydd o oleuni yn dyfod, a'r tywyllwch yn cilio, meddyg y cleifion, gobaith y carcharorion, cyfarwyddyd y cyfeiliorn, rhybuddiwr gwasanaethwyr Duw, yr hwsmyn a'r traefaelwyr, ceryddwr y cysgaduriaid, arwydd gostwng y tymestloedd a'r gwyntoedd, a gerwindeb y moroedd, ac arwydd yw ei ganiad o flaen ysbryd da a drwg, a chyn y cano fe a'i adenydd a gur ei ystlysau dairgwaith yn enw'r drindod i ddihuno ei galon ac a ddyrchefiff ei ben tua'r Nefoedd, yn arwydd ei fod yn erchi gras gan yr hwn y mae gras ganddo, ac yn gwasanaethu yn lle rhybydd i'r byd, a phan ddisgyno i'r llawr a gweled ei luniaeth fe a gân, i ddiolch i Dduw, ac a eilw ei gymmar a'i gyd-etifeddion ynghyd i ddangos eu lluniaeth iddynt cyn i dreulio ef ddim ei hunan, yn arwydd gras a chywirdeb i Dduw."

Y GOG A'I GWAS.—Un o'r adar hynotaf ag sydd arferol o ymddangos yn y wlad hon yw y gog. Y mae yn aderyn hynod ar gyfrif ei lais, neu ei dôn unffurf. Nid yw yr aderyn hwn byth yn gwneyd nyth iddo ei hun, eithr dodwya yn unrhyw nyth a gaffo yn gyfleus ar y pry-llwydyn y berth, brith y fuches, y frongoch, &c., ac fel rheol un wy a esyd yn yr un nyth, a gwna hyny â'i bawenau neu â'i big. Bernir mai llwyd y gwrych (hedge-sparrow) ydyw yr aderyn arferol o weinyddu