fel mammaeth i hiliogaeth y gog. Os digwydd i wyau y gog ddeori yr un pryd ag eiddo y fammaeth, dywedir fod teulu yr olaf yn cael eu gwthio allan dros ymyl y nyth, tra eiddo y blaenaf yn wrthddrychau y gofal a'r tynerwch mwyaf. Am dymmor ar ol ei ymweliad, bydd yn myned oddiamgylch heb yr un gwas yn ei ddilyn; yna, yn mlaen tua dechreu Mehefin, &c., eheda o amgylch o goeden i goeden, ac o lwyn i lwyn, gyda'r aderyn bach llwyd yn ei ganlyn yn barhaus. Tybia rhai fod yr aderyn hynod hwn, ar ol gorphen canu yma, yn ymadael gan fyned i hinsawdd cynhesach; tybia eraill nad yw un amser yn ymadael â'n gwlad, ond ei fod, yn gystal â'r wennol, yn un o'r "saith gysgadur," ac yn ymguddio yn ngheudod hen goedydd, &c. Gelwir amryw lysiau wrth enw'r gog, megys blodau'r gog, pidyn y gog. Gelwir hefyd y poeri a geir ar rai llysiau yn "boer y gog" ceir yn wastad yn y poeryn hwn fath o bryfyn bychan. Oddiwrth y gog hefyd y daw yr enw cwcwallt am ddyn, ag y byddo ei wraig yn anffyddlawn iddo, a'i fod felly yn cael ei drin fel y trinir adar ereill gan y gog, drwy osod wy yn eu nyth i gael ei ddeori ganddynt. Credid mai anffodus ei chlywed yn canu, am y waith gyntaf yn y tymmor, os yn sefyll ar dir meddal ar y pryd: eithr os ar dir glas porfaog y bydder, arwydda hyny lawnder a chysur drwy gydol y flwyddyn. Ystyrid hefyd yn anffodus ei chlywed, am y waith gyntaf heb arian yn y llogell, gan y credid mai felly y byddai dyn neu ddynes ar hyd y flwyddyn —ymddibynai llwydd neu aflwydd ar y digwyddiad dros ysbaid blwyddyn. Os byddai arian yn y llogell, gwell, yr ystyrid, rhoddi tro arnynt. Nid dymunol chwaith ei chlywed y waith gyntaf pan fyddo dyn yn gorwedd ar ei wely; canys, nid oes i'w ddisgwyl ond afiechyd, os nad marwolaeth o hyny i ddiwedd y flwyddyn.
Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/153
Gwedd