Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COLOMENOD, fel yn ddiau y dylasent fod, oeddynt adar ag na chyfrifid ond anffodion yn eu dilyn. Byddai llawer o wragedd da yn dinystrio hyd y nod plu yr adar hyn, ac ni fynent eu rhoddi mewn gwely na gobenydd, oblegyd ni allai neb farw ar wely o blu colomen, neu unrhyw helwriaeth. Yr oedd hon yn hen grediniaeth ledaenol iawn, ac yn cael ei chadarnhau trwy brofion tebyg i hyn Edrychwch Dafydd, druan, mor galed yr oedd hi arno yn marw; druan o'i enaid tlawd, ni fedrai ddim marw mewn ffordd yn y byd hyd nes y deallodd cymmydog iddo beth oedd yr achos." "Dafydd," ebai wrtho, "yr ydych yn gorwedd ar blu colomen yn sicr i chwi;" ac felly yr oedd: a chymmerwyd ef allan o'r gwely, ac fe'i dodwyd ar lawr, a bu farw yn fuan wed'yn. Ymddengys mai y peth olaf y mae dyn am ei fwyta ydyw colomen. Pan y gofynir i rywun am ychydig o gig colomen i ddyn sal, dyma a ad-ofynir: Ah, druan o hono, ydi o wedi myn'd mor bell a hyny? Colomen, yn gyffredin, ydyw y peth olaf fydd arnynt eisiau. Yr wyf wedi rhoi amryw i'r un pwrpas cyn hyn." Os gwelid colomen yn eistedd ar goeden, neu yn dod i mewn i dŷ, neu o fod yn wyllt yn ddof, argoel o farwolaeth yn y lle, ydoedd hyny.

ROBIN GOCH, Y WENNOL, Y PINC, A'R DRYW.—Yr oedd yn gred gan fechgyn, a chan lawer o bobl, fod tynu nythod yr adar hyn yn dwyn anffodion o gryn bwys i'r rhai a'u tynent; ac yr oedd gwragedd yn credu fod presenoldeb eu hwyau yn eu tai yn dylanwadu er niwed i ddiogelwch eu llestri. Yn ol yr hen chwedl, pan oedd ein Iachawdwr yn hoeledig ar y groes, ac ing y goron ddrain yn gwasgu ar ei aeliau, daeth Robin Goch, a cheisiodd dynu un o'r drain ymaith, ac wrth wneuthur hyny clwyfodd ei fron ei hun, yr hon hyd yma oedd wedi bod yn llwyd. O goffadwriaeth