Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y dryw bach dri ar ddeg,
Rheini'n dirion ac yn deg;
Hen farcutan ddim ond dau
Rheini'n llwydion ac yn llau."


GWENYN.—Gan eu bod wedi eu cynnysgaethu â moddion naturiol i ehedeg, megis adar, dodwn hwy i fewn yn y dosbarth hwn, a llawer math o ffodion yn gystal ag o anffodion oedd gyssylltiedig â hwy; megis na byddai i wenyn wedi eu lladrata gynnyrchu mêl, ond byddai iddynt waelu a marw. Mewn rhai manau, credid nad dyladwy eu prynu âg arian, ac mai y peth goreu i'w roddi am danynt fuasai sachaid o wenith. Nid cyfnawsaidd chwaith â'u natur un amser, ydoedd llwyddiant, os byddai cwerylon yn cymeryd lle yn mysg y teulu—eu perchenog; a phan yr elai cynhebrwng heibio i dŷ y byddai gwenyn yn perthyn iddo, mai angenrheidiol, er lles y gwenyn, fyddai codi y cwch ychydig o fodfeddi oddiar y fainc. Pan y byddai un o'r teulu farw, credid y byddai y gwenyn farw hefyd o ofid, oni hysbysid hwy o'r amgylchiad. Yn ngwyneb hyn, elai perthynas at y cwch, a phlygai uwch ei ben, a dywedai wrth y gwenyn mewn llais isel beth oedd wedi cymeryd lle; felly, yn ymddwyn at y creaduriaid bychain fel pe byddent yn meddu deall dynol, ac yn teilyngu yr un parch ag a ddangosid gan aelod o deulu at yr aelodau ereill. Dyfodiad gwenyn dieithr yn eiddo i deulu, a ddynodai lwyddiant; eithr marw neu fynediad ymaith wenyn, wrth reswm, a ddynodai aflwyddiant. Arferai llawer godi yn y plygain foreu Nadolig i glywed y gwenyn yn canu eu mawl am enedigaeth ein Iachawdwr, yr hyn na esgeulusid y bore hwn, gan wenyn yr hen amseroedd, ond tebygol fod gwenyn yr oes ffug-sancteiddiol hon, fel ei chrefyddwyr, yn llawer mwy difater yn nghylch y bore bythgofiadwy hwn. Yn ol cred ac athrawiaeth yr hen bobl