yr oedd yn ofynol lladd y wenynen feirch gyntaf a welid yn y tymmor am y credent y byddai iddynt, drwy hyny, gadw eu hunain yn ddiogel rhag gelynion ar hyd y flwyddyn.
Y GIGFRAN, PENMELYN YR EITHIN A BRITH Y FUCHES.—Aderyn hynod o annymunol yr ystyrid y gigfran grawelyd, a drwg i gyd a wnelai; ac ni chaffai ehedeg dros dyddyn neb o'i fodd, am na wnelai hyny
"Heb ddrwg andwyol, trwm yn bod,
I ŷch yr hwsmon yn mhob nôd."
Y mae "Penmelyn yr Eithin" yn cael y gair" o aberthu ei rai bach i borthi nadredd, a Brith y Fuches " a gyfenwir hefyd "Brith yr Oged" yn "cael y gair" o fod goruwch gallu neb i'w ladd â chareg; eithr os digwydd i rywun allu ei ladd drwy ryw ddyfais arall, gwae iddo, oblegid
"Y neb a laddo Frith y Fuches,
Gaiff fyn'd ar lechan lâs i uffern."
Pa mor frwnt a chreulawn bynag yr ystyrid y cidyll coch, yr oedd ei weled yn annelu ar ei ysglyfaeth yn argoel dda iawn; ond os ehedai unrhyw aderyn rhagddo, am ei fywyd, neu ynte unrhyw aderyn o hono ei hun, i mewn i ystafell ac allan drwy ffenestr agored, yr oedd hyny yn argoel o farwolaeth yn mysg preswylwyr y ty.
LLEN Y DYDDIAU.
Gwyr pawb, os na bydd yn annghredadyn, fod gwahaniaeth mawr rhwng y naill ddiwrnod a'r llall; fod un dydd yn ffodus a'r llall yn anffodus, fel y ma llwyddiant neu aflwyddiant unrhyw orchwvl yn ymddibynu ar y diwrnod y dechreuir. Yr oedd yr hen bobl yn barnu fod dyddiau croesion