fel yna, gofynai y mab: Ai ti sydd i fod yn wraig i mi?' Os mai felly yr oedd i fod, troai y llyfr o hono ei hun at y ferch, ac i'r gwrthwyneb os y ferch fyddai yn gofyn ai efe fyddai y gwr."
Ar nos Galan Gauaf, nid yw o bwys pa flwyddyn, anfonodd meistres ei morwyn allan i dynu rhyw nifer o genin, gan ddyweyd wrthi y cawsai felly weled yr hwn fyddai yn wr iddi. Gwnaeth y forwyn gais ei meistres, a'r cyntaf a welodd wed'yn oedd ei meistr. Hysbysodd hyny i'w meistres, yr hon a ddymunodd arni fod yn dirion tuag at ei phlant. Cymmerodd priodas le rhwng y meistr a'r forwyn. Cyn, neu wedi hyny, yr oedd merch ieuangc yn cadw ty i'w hewythr. Mewn awydd gwybod pwy fyddai ei gwr, dilynodd gynghor rhywun drwy osod Beibl dan ei gobenydd ar nos Galan Gauaf, gan ddisgwyl drwy hyny gael golwg arno. Pan ofynwyd iddi dranoeth beth fu'r canlyniad, dywedodd: "Dim; ni welais i neb ond fy ewythr." Hi a briododd â'i hewythr.
"Gesyd menyw halen mewn gwniadur, ac yna gesyd hwy o fewn ei hosan, ac wedi eu dodi dan ei gobenydd, mae yn myned i gysgu, ac yn gweled yn ei breuddwydion yr hwn a fydd yn wr iddi."
Ond i ferch ieuangc gerdded dair gwaith o amgylch eglwys y plwyf, y noson o flaen y Nadolig, hi a gawsai y trydydd tro olwg ar ei darpar wr.
Arferai tair neu bump—rif annghynnifer—o ferched ieuaingc fyned allan ar ol deuddeg o'r gloch y nos, heb siarad gair o'r amser y cychwynent hyd yr amser y dychwelent yn ol, a chynfasau ganddynt, gan groesi afon i blwyf arall, ac wrth groesi, wlychu y cynfasau, ac yna dychwelyd adref, a'u taenu ar y llwyn o flaen y ty, gan ddisgwyl yn bryderus, wrth edrych drwy y ffenestr, weled eu cariadau yn dyfod, ac yn troi y cynfasau. Os na ddeuai neb nid oedd un briodas i fod.