Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar nos wyl Ifan i hau hâd llin neu gowarch, er mwyn gweled eu cariadau—weithiau hauid ar groesffyrdd, brydiau ereill mewn caeau; a thra wrth y gorchwyl, erfynid ar y dyn ieuangc i ymddangos ac i gribinio y tir ar yr hâd, gan yr un pryd adrodd y llinellau hyn:

"Hadau cowarch wyf fi'n hau,
Sawl a'm cara doed i'w crynhoi."


Yr oedd yn ofynol hefyd i'r menywod, wrth hau yr hâd yma, ofalu am ddyweyd rhyw gelwydd, onide ni allent ddisgwyl y troai allan yn llwyddiannus yn ei swyn carwriaethol nac wrth ei drin, wedi y tyfai ac y cynhauafai.

Cawn, hefyd, mai un o gymmwynasau cariad oedd, fod un yn dangos parodrwydd i gosi y llall, fel y cyfeirir yn ein diarebion:—" Cos di fi, mi cosa inau dithau." Seboni wneir yn ein hoes ni, defnyddio sebon meddal, gwenieithio, tuag at sicrhau cymmeradwyaeth. Yn ol braint a defod priodasau, yr oedd y chwaer hynaf, bob amser, i gael un gŵr yn chwaneg na'r llall, o herwydd fod crychni yn amlach yn ei thalcen; ond yr oedd yn amlwg mai yr ieuengaf oedd i gael y rhifedi mwyaf o blant, am fod cymmalau ei bysedd yn clecian yn fynychach pan fyddai yn eu tynu â'r llaw arall. Yr oedd yn anffodus i chwaer ieuengaf briodi o flaen y rhai hynaf, os na byddai iddynt hwy ddawnsio yn droednoeth yn y neithior. Tywallt gwyn-wy i ddwfr oer, a ddynodai i'r hon a'i tywalltai pa beth fyddai galwedigaeth ei chariad: os ar lun llong yr elai, llongwr fyddai y priodfab; ond os ar lun rhywbeth arall yr elai, arnodai y gwyn-wy hyny yn gywir. Nid oedd chwaith amheuaeth nad oedd gwythenau yn nghefn llaw pob merch ieuangc yn null y llythyren gyntaf o enw y sawl a fyddai i fod ar ran y naill a'r llall yn y cwlwm priodasol. Hefyd, plicio meipen, ond cael