Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y plisgyn yn gyfa, ac ymaflyd yn un pen iddo, a'i droi dair gwaith o amgylch y pen—yna ei olwng i ddisgyn o'r tu ol; ac ar ddull y llythyren bynag y byddai, dynodai hono enw cariad y ferch ieuangc.

Pan y byddai merch ieuangc yn plisgio pŷs, ac yn digwydd cyfarfod â phlisgyn fyddai yn cynnwys naw pysen, yr oedd yn ofynol iddi ei osod ar riniog drws y gegin; a'r dyn cyntaf a groesai drosto, hwnw fyddai ei chariad. Weithiau, tynid blewyn o wallt pen, a dodid modrwy wrtho, gan ei chrogi mor agos ag y gellid i ganol glass, ac os digwyddai iddo daro unwaith yn ei gwr, arwyddai hyny y byddai i'r sawl a'i cynnaliai ar y pryd fod un flwyddyn yn chwaneg heb fyned i'r ystâd briodasol; a pha nifer bynag o ergydion a ddodai yn erbyn yr ymyl, yr oedd pob ergyd yn rhwym o fod yn rhoddi sicrwydd o estyniad blwyddyn yn nghwrs adeg y priodi; peidio taro o gwbl, a ddynodai beidio priodi o gwbl. Dodid hefyd fodrwy mewn crempog, ac i ran pwy bynag o fysg cynnifer y delai, dyna yr un oedd i briodi gyntaf. Ar noswaith glir, a'r lleuad yn llawn, mynych y cymmerid cadach sidan, gan edrych drwyddo i gyfeiriad y lleuad; ac os gwelai y sawl a edrychai felly y lleuad yn gron, golygai hyny y byddai y cyfryw un yn briod yn mhen blwyddyn: os yr ymddangosai y lleuad megis yn ddwy neu dair, golygai hyny flwyddyn o oediad yn y briodas, yn ol rhif ymddangosiadol y lleuad. Os yn betryal yr ymddangosai, dynodai hyny na byddai priodas ar ran yr edrychydd pa mor hir bynag y byddai byw. Pan y gwelai mab neu ferch ieuangc y lleuad gyntaf yn y flwyddyn newydd, cymmerent ymaith eu hosan a rhedent at gamfa; ac ar ol edrych yn fanwl, hwy a gaent flewyn dan fawd eu troed o'r un lliw a gwallt eu cariad. Bernid mai yr adeg oreu i briod: oedd y pryd y byddai y lleuad yn agos i'r llawn—rhyw ddeuddydd cyn y llawn, hyd