ddeuddydd neu dri wedi'r llawn: os fel arall y priodid, ni byddai unrhyw lwydd ar y pâr priodasol. Yr oedd yn ofynol i gwpl ar bwynt priodi ddattod pob cwlwm fyddai ganddynt o amgylch eu dillad, a'u hail-gylymu ar ol hyny yn y dirgel. Wedi iddynt briodi, cymmerent ofal nad elent i mewn drwy un drws ac allan drwy y llall; a phwy bynag a syrthiai gyntaf i gysgu ar noson y briodas fyddai y cyntaf i farw. Pan ddigwyddai i ferch ieuangc bwnio y tân, ac iddo gynneu yn eglur a chyflym, yr oedd hyny yn arwydd ddifeth y byddai iddi gael gŵr da. Pan y byddai tân, fin nos, yn atal cynneu, dynodai hyny fod cariad y ferch ieuangc fyddai yn y tŷ yn meddwl yn ddifrifol am dani, ac yn ffyddlawn iddi. Yr oedd y ganwyll yn medru proffwydo yn gystal a'r tân, oblegyd pe methai merch ieuangc, ar ol diffodd y ganwyll, a'i chwythu i gynneu drachefn, byddai hyny yn arwydd o anniweirdeb ynddi. Os collid gardas, yr oedd hyny yn arwydd fod eich cariad yn son am danoch. Yr anrheg fwyaf ffodus y gallai dyn roddi i'w gariad oedd wy cyntaf cywen. Hefyd, arferol yn mysg y merched ieuaingc, oedd berwi wy cyntaf cywen yn galed, a dodi ynddo lwyaid o halen, a'i fwyta, yna myned i'w gwelyau yn wysg eu cefnau; a'r nos hono, mewn breuddwyd, gwelent eu darpar wŷr yn dyfod a chwpanaid o ddwfr iddynt i'w yfed. Pan y cyfarfyddai personau fyddent ar bwynt priodi â chydnabod, disgwylid iddynt rwbio eu penelin. Pan y byddai pâr newydd ddyfod drwy y seremoni briodasol lluchid rice am eu penau, a theflid hen esgidiau ar eu holau; a phan y deuent adref, cymmerid iâr i mewn i'r tŷ, a gwneid iddi grawcian, er mwyn eu "lwc." Wedi eu myned i'w gwely, elid yn ddirgel i'w hystafell, a dygid hosan berthynol i'r naill a'r llall o honynt, ac elid â hwy i ganol y dyrfa lle byddai y delyn, gan eu taflu i fyny, ac ar ben pwy bynag
Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/168
Gwedd