y disgynai yr hosanau, y rhai hyny oeddynt i briodi gyntaf. "A thaflu'r hosan, a cherdd a chân." Os digwyddai i berson anmhriod gael ei osod rhwng gŵr a gwraig, yr oedd hyny yn golygu priodas ar ei ran o fewn y flwyddyn hono; felly hefyd, os digwyddid, yn ddiarwybod, roddi dwy lwy mewn cwpan de o flaen unrhyw berson. Os na fyddai digon o ddwfr yn y tepot i lanw cwpan mab neu ferch ieuangc, yr oedd hyny yn arwydd nad oedd y cariad yn bur; hefyd, os collai merch ieuangc ddwfr hyd ei dillad wrth olchi, gŵr meddw fyddai ar ei rhan. Dyfod yn dêg ddiwrnod golchi, yn nghanol tywydd gwlybyrog, a olygai fod cariad yr olchyddes yn bur iddi. Hefyd, taro troed ystôl yn nwfr golchi llestri, a thaflu ystôl a'i thraed i fyny, a ddynodai i'r ferch ieuangc a wnelai hyny, gael cariad nos y diwrnod hwnw. Byddai llawer yn sylwi pa dywydd a gaffai y bobl ieuaingc ar eu dychweliad adref o'u priodi—haul ynte gwlaw ar y fodrwy briodas. Yn ol yr olwg a gaffent arnynt y pryd hyny, gallent hwy ddywedyd pa fath fyddai eu llwydd, neu ynte eu haflwydd, dros ystod eu hoes. Pe digwyddai i'r fath anffawd ag i fodrwy gwraig dori o ryw ddamwain neu gilydd, ystyrid hyny yn argoel o drychineb echrydus ar ei rhan; ac os digwyddai iddi ar ryw achlysur o ymyraeth, neu rywbeth arall, dynu ei modrwy oddiam ei bys, byddai ysgariad priodasol rhyngddi a'i gŵr yn sicr o gymmeryd lle o'r canlyniad.
Gallent hwy, yr hen bobl ffyddiog hefyd, ddywedyd pa un ai cadwedig ynte colledig fyddai y marw, wrth fyddai y tywydd pan fyddis yn dwyn ei gorff i'r fynwent:—os yr haul a dywynai ar yr elor, colledig fyddai enaid yr ymadawedig; ond os gwlaw a ddisgynai arni, gallai perthynasau y marw benderfynu ei fod yn dragwyddol gadwedig. Os digwyddai dau angladd yn lled fuan y naill ar