ol y llall, byddai y trydydd yn sicr o ddilyn yn ebrwydd. Os cwrddid neu os goddiweddid cynhebrwng, yr oedd yn ofynol tynu het; cadwai hyny yr holl ysbrydion a ddilynent y corff mewn tymher dda. Breuddwydio bod yn mhriodas rhyw gyfaill, a sicrhâi y byddid yn fuan yn ei angladd. Cerdded yn gyflym mewn angladd, a olygai angladd arall i ddilyn yn fuan.
Yr oedd gweled y lleuad newydd gyntaf dros yr ysgwydd dde yn golygu llwyddiant am y mis hwnw; ond ei gweled dros yr ysgwydd chwith yn golygu aflwyddiant. Gweled y lleuad newydd am y tro cyntaf, heb arian yn y llogell, oedd arwydd o anffawd; felly hefyd yr oedd derbyn yr arian cyntaf, os na phoerid arnynt. Nid oedd chwaith obaith i'r sawl a gariai bres yn ei logell fyned yn gyfoethog. Pan syrthiai marworyn o'r tân, byddid mewn brys mawr i'w chwilio, modd y gellid gweled pa un ai arian—god neu arch ydoedd; gwreichionen yn neidio o'r tân oedd yn arwydd o dderbyn arian, neu ynte marwolaeth, yn ol chwiw y dymher; cosi yn nghledr y llaw oedd yn argoel derbyn arian,
"Rhwbia hi ar bren,
I'w gyrchu i ben;
Rhwbia hi ar brês,
Ac yna daw'n nês."
Yr oedd ysfa yn y croen yn dangos braidd bob peth. Os byddai ysfa ar y traed, arwyddai gyfnewidiad yn y tywydd, neu y byddai raid cerdded tir dieithr; os ysfa yn y penelin, y cydymaith a newidid; a phan fyddai crynu ar berson, yr oedd rhywun yn cerdded hyd ei fedd. Os byddai cosi ar drwyn rhywun, arwyddai y byddai arall yn son am dano yn rhywle. Cosi ar y gàr, a arwyddai y cerddid yn fuan ar dir annghynefin; cosi ar y llaw dde, a ddynodai dderbyn arian; cosi ar y llaw chwith, a ddynodai dalu arian; ysfa yn y llygad