de, chwerthin fyddai y canlyniad; ond os ar yr aswy, tristwch a ddilynai, neu yn ol yr hen ganu,
"Cosi ar y llygad de,
Llawenydd o bob lle;
Cosi ar y llygad chwith,
Dagrau fel y gwlith."
Os methai rhywun ei safn wrth fwyta, ac os syrthiai ei damaid, yr oedd yn argoel ddrwg iawn—yn golygu afiechyd yn fuan. Pan ddigwyddai rhywun wisgo dilledyn yn chwithig, yr oedd yn ofynol ei gadw felly drwy y dydd rhag ofn aflwyddiant. Os digwyddai rhywun wisgo hosan y tu chwith allan, os na ddelai i wybod ei bod felly hyd yr hwyr, ystyrid fod hyny yn ddiogelwch rhag pob math o siomedigaeth a thwyll am y diwrnod hwnw. Tori ewinedd plentyn cyn y byddai yn flwydd oed, a'i gwnelai yn lleidr; os siglid cryd gwâg, byddai y plentyn a arferai gael ei siglo ynddo yn sicr o farw yn fuan. Pan byddai dyn dieithr yn dyfod i mewn i ystafell, rhaid f'ai iddo eistedd i lawr, pe b'ai ond dros hanner munyd, onide fe gymmerid ymaith gwsg y plant. Bara begeriaid a ddylid ei roddi i blant ag fyddai yn Y dant hir cyn dyfod i lefaru neu i ddysgu. cyntaf a gollid gan blentyn a ddylid gael yngcu gan ei fam, i beri rhes o ddannedd heirdd dyfu ar ei ol. Hefyd, pan dynid neu gollid dant, i rywun mewn oed, arferid ei daflu dros y pen i'r tu ol, gan adrodd y llinellau hyn:
"Brân ddu, brân wen,
Taflu'm dant dros fy mhen;
Dant gwyn i mi
Dant du i'r ci."
Ystyrid fod rhyw fath o dynged orfodol yn arwain y sawl ag y byddai bwlch rhwng ei ddannedd blaen, i fyned i wlad estronol i fyw. Gosod llaw plentyn, newydd eni, ar ryw Salm neillduol, cyn