Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhoddi dwfr ar ei gnawd, a wnelai y plentyn hwnw mewn amser yn hoff o ddysgeidiaeth, ac yn rhwydd ei athrylith i ddysgu pob peth. Neidio neu gamu dros blentyn a rwystrai ei dyfiant. Edafedd a wneid gan ferch, dan saith mlwydd oed, a gynnwysai ryw rinweddau neillduol. Heblaw y rhinweddau f'ai ynddo er gwelliant llawer o glefydau, yr oedd ynddo y rhinwedd o gadw y gwisgwr o hono rhag dewiniaeth. Yr oedd bedydd esgob yn gwellhau y rhai a fyddent yn methu ymatal rhag gwlychu eu gwelyau yn y nos, ac hefyd yn feddyginiaeth ddiffael i'r rhai fyddent yn arfer codi a rhodio yn eu cwsg. Os digwyddai i ddillad rhywun losgi heb neb yn gweled, nac yn gwybod pa fodd y cafodd y tân afael arnynt, gallai hwnw fod yn sicr y byddai i ryw aflwyddiant chwanegol ei ddilyn. Os byddai màn gwŷn ar yr ewin, byddid cyn sicred o dderbyn anrheg a phe buasai eisioes mewn llaw; ac os byddai i rywun disian yn blygeiniol, efe a gaffai glywed rhyw newydd neu dderbyn anrheg yn lled fuan; rhywbeth yn debyg a olygai màn geni o'r tu uchaf i wynt rhywun. Y death watch, sef math o swn, tip, tip, tip, gan bryf copyn, i'w glywed mewn ystafell, pan na fyddai yno yr un oriawr i'w chael i wneyd swn, a ystyrid yn gyffredin yn argoel ofnadwy am golledion yn yr anifeiliaid, neu ryw bethau blinion o'r cyffelyb natur, ag a fyddai yn achos i ddynion fod yn annghysurus, hwyrach yn farwolaeth ddisymmwth yn y teulu, neu yn mhlith rhai o'r perthynasau. Clywed cnul yn y glust, sef swn gwan tebyg i gloch, oedd yn arwydd neu rybudd pendant o angladd. Byddai yr angladd yn yr un cyfeiriad ag y byddai y dyn yn sefyll ar y pryd. Byddai Ilawer hen ŵr, a llawer hen wraig, yn dywedyd, pan glywai am rywun wedi marw, Dyna hi, yr oedd cnul yn fy nghlust yr adeg a'r adeg." Adeg arall, pan glywid swn yn y glust, "Dyma hi, mi