glywaf am rywun wedi marw eto yn fuan." Hefyd, byddai cloch y Llan yn dra gwasanaethgar fel i rybuddio, dywedai fod amser ymddatodiad rhai o'r plwyfolion gerllaw trwy roddi tri thinc o honi ei hun. Byddai i'w chlywed, weithiau, ganol nos, ac yn peri braw mawr, oblegyd yr oedd ei swn yn ddolefus a galar—dreiddiol ofnadwy, yn ddigon i beri i'r dewraf ei galon syrthio mewn llewyg, a'r gruddiau cochion a rhosynaidd welwi fel pared, a'r chwys oer darddu fel pys gwynion ar y wyneb. Gweled amdo yn y ganwyll, breuddwydio eich bod yn colli rhai o'ch dannedd, clywed swn canu yn myned heibio yn nyfnder nos, neu i goed afalau flodeuo yn anamserol—yr oedd yr holl arwyddion hyn yn ddieithriad yn dynodi marwolaeth. Peth cyffredin hefyd ydoedd clywed, yn oriau tawel y nos, ryw gyffro a symudiadau mewn tŷ, heb yr un person gweledig yn achosi y cyffro, megis coffrau yn cael eu hagor, fel pe byddai rhywun yn chwilio am ddillad, tebygol y byddai rhywun yn y tŷ hwnw yn marw. Bernid nad oedd dim ond Beibl, wedi ei ddodi o'r fron hyd glicied yr ên, yn sicr ddiogel ac addas i gau safn dyn marw. Hefyd, yr oedd tuedd yn cymhell dynion "i osod y Beibl ar ei gefn, a'i ollwng i agoryd o hono ei hun," lle byddai da gan yr Arglwydd, fel y tybient; ac os caent adnod ar un o'r ddau tudalen a fyddent o'u blaen, neu yr adnod gyntaf arni, yn perthyn i'r pwngc, penderfynent fod ganddynt feddwl Duw ar y mater, bod y ddadl oedd yn eu meddwl ar ben, a'r tywyllwch a'i gorchuddiai wedi ei chwalu yn llwyr. Pan ddigwyddai fod huddugl yn hongian wrth ffon grât, ond i rywun guro ei ddwylaw yn nghyd yn ei ymyl, ac enwi dyddiau yr wythnos gyda phob tarawiad, byddai rhywun dieithr yn sicr o dalu ymweliad â'r tŷ ar y dydd a enwid pan syrthiai yr huddugl. Dodi cneuen yn y marwy dos, ac i hono roddi clec, oedd arwydd dda; ond os
Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/173
Gwedd