dderbyn ei henw oddiwrth y dyb mai brasder hyddgig oedd yr irad a nofiai ar ei gwyneb, yr hwn, fel y tybid, a ddygid yno gan y ffrydiau oedd yn rhedeg drwy gegin yr enwog Dywysog Arthur, un o arwyr dychymmygol yr hen Gymry, ac oddiar hyny priodolir iddi, hyd heddyw, lawer o rinweddau meddyginiaethol.
VII. FFYNNON CHWERTHIN.
"Gerllaw pentref Llanberis yr oedd ffynnon a elwid Ffynnon Chwerthin. Gwelid ynddi filoedd o binau yn y gwaelod, ac wmbredd o gorciau yn llawn o'r un arfau peryglus yn nofio y wyneb. Dyna offerynau tair gwrach y gymmydogaeth i gospi troseddwyr, a thynu oddiar eu cymmydogion ofergoelus, y rhai, bob amser, a roddent y gorchymynion caethaf i'r plant i gadw draw oddiwrth y ffynnon hon. Cymmerid y fath ofal i argraffu ofn y gwrachod ar eu meddyliau fel na cheid digon o feiddgarwch hyd y nod yn y glaslangc dyreidus i osod bys yn y pwll gwaharddedig. Gan fod y ffynnon yn nghanol siglen, yr oedd yn anmhosibl myned ati heb gynnyrchu dwfr-glych ar ei gwyneb, neu beri iddi chwerthin, yn ol chwedl yr ardalwyr, yr hyn beth, heb radd o amheuaeth, a briodolid i'r gwrachod a'r hen fechgyn duon oedd yn rhwym iddynt. Mor fuan ag y gwelid y dwfr yn bwrlymu neu yn crychferwi, gwelwai y wyneb, a churai y gliniau yn nghyd o dan ddylanwad ofn."
Y mae Pennant, yn ei Tour through Wales, yn nodi ffynnon, ger Llanberis, ag yr oedd gwyddanes yn bresenol yn darllen tynghed ei chydgreaduriaid oddiwrth ymddangosiad pysgodyn oedd ganddi yn y dwfr.
VIII. FFYNNON FAIR.
Gellir gweled y gyfryw ffynnon ger Dinas y Moch, yn mhlwyf Beddgelert. Yn ol traddodiad,