Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amser Cromwell, o 1600 i 1640, o James I. i amser Charles II."—Eben Fardd.

XIII. FFYNNONAU'R CENNIN.

Yr oedd ffynnon yn nhir Tyddyn y Fammaeth, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant, o'r enw 'Ffynnon Dw'r Llygaid.' Nid yw yn awr yn ganfyddadwy o herwydd brwyn, &c. Hefyd, y mae yn nhir amaethfa o'r enw Yr Allt, ffynnon ag y priodolid iddi amryw rinweddau, megis iachâu manwynau, llygaid, &c. Ymddengys y perthynai i hon gryn fri, oblegyd y mae o'i hamgylch geryg mawrion megis yn ei hamddiffyn, a gwarchglawdd cadarn o bridd o'r tu isaf iddi.

XIV. FFYNNON Y CYTHRAUL.

Twll crwn, troedfedd o ddyfnder wrth 15 modfedd ar draws, mewn craig yn wynebu'r deau, ychydig yn ogleddol i Lanfihangel-y-Pennant, yw y ffynnonig hon. Priodolir iddi y rhinwedd o iachâu llygaid, a phob math o ddefaid oddiar ddyn ac oddiar dethi gwartheg. Nid oes iddi darddiad o'r ddaear, eto, er hyny, ni ddigwyddodd i neb ei gweled wedi sychu, oddeithr codi y dwfr o honi.

Testyn difyrwch diniwed ddylai fod pob hanes am 'wr drwg' ein llên gwerin. Yr unig astudiaeth ddifrifol a haedda yw chwilio, nid am brofion o'i oroesiad a'i fodolaeth yn bresennol, ond am ei le yn nghyn—hanes ein gwlad—nid yw ef i'w gymmeryd yn ddifrifol, fel Diafol y Beibl, am nad yw ddim ond adgof o ryw fodach direidus, ar y gwaethaf, tra weithiau yn eithaf boneddwr."

XV. FFYNNON SAINT.

Yr oedd hon i'w gweled o dan gilfach, yn nghongl cae, ar y llechwedd yn agos i Eglwys Criccieth;