Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond erbyn hyn, fel llawer o bethau ereill, y mae wedi ei llyngcu i fyny i ddifodiaeth, fel nad oes i'w ganfod ond gweithrediad hylifol ei dwfr yn treulio y tir o'i dardd—le yn ffrwd fechan o'r tu gorllewinol iddi. Yr oedd yn cael ei hystyried yn wyrthiol, ac arferid gan y trigolion fwrw iddi allweddau neu binau, ar foreu Sul y Pasg, er mwyn sicrhau nawdd saint y ffynnon—Dunawd a'i forwyn—sant Catrin, yn ol fel y damcanir, gwarcheidwaid Eglwys Criccieth. Os felly, dygir ger bron y meddwl yr hyn a gynnwysir yn yr enw—Ffynnon Saint, yn ddigon eglur; ond dylid cofio ein bod wedi colli ein hanesiaeth henafol bendant agos oll.

XVI. FFYNNON DDEFAID.

Tarddai y ffynnon hon islaw'r brif-ffordd yn nghae Pen y Bryn, ger Nant y Glyn, yn mhlwyf Llanystumdwy. Richard Lewis, garddwr yn y Plas Hen, a ddaeth i wybod gyntaf am ei rhinweddau, drwy olchi ei lygaid, ag oeddynt ddolurus, â'i dwfr, a chael, drwy hyny, iachâd iddynt. A chymmaint, yn herwydd hyn, oedd ei feddwl am ei natur ac iachusrwydd ei dwfr, fel y llwyddodd i gael grisiau i ddisgyn iddi yn nghyd a muriau i'w chylchynu. Mynodd hefyd dori ar gareg, i fod ar ei chyfer, ei goffawd ei hun, yn y dull yma:

Rd. Ls.
Ad 53
1772."


sef "Richard Lewis, Aged 53, 1772."

Y prif rinweddau a briodolid i effaith wyrthiol y ffynnon hon, oeddynt, wellâu llygaid a thynu ymaith ddefaid; a mynych yr ymwelid â hi gan bererinion o wahanol fanau, ond erbyn hyn nid oes liw o honi—difodwyd hi gan amaethwyr y lle, a chariwyd ei muriau oll i ffwrdd.