Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynnwysa arbrofion dansoddol, ac ymchwiliadau fferyllol i'w natur, yn nghyd â chyfarwyddiadau i'w defnyddio fel meddyginiaeth. Dywed yr awdwr hwn "Ei bod yn sicr fod cyrchu mawr at y dwfr yn amser Pabyddiaeth cyn y Diwygiad, er cael ymwared oddiwrth wahanol anhwylderau, a bod cist yn yr eglwys, yn yr hon y gofynid i'r cleifion gyfleu eu hoffrymau; oblegyd gofalai y tadau parchedig am sicrhau wrth yr ymwelwyr fod rhinwedd iachâol y dwfr yn deilliaw oddiwrth râd a bendith Cybi Santaidd. Ar ol y Diwygiad parhaodd ymdrochi yn y dwfr hwn i fod yn llwyddiannus at lawer o anhwylderau; ond nid oedd ei rinwedd yn hysbys, oddieithr yn nghymmydogaeth Llangybi a'i hamgylchoedd, hyd tua'r flwyddyn 1750, pryd y tynwyd sylw y Parch. Mr. Williams, o'r Ty Newydd, Llanystumdwy, ato. Wedi clywed o'r gwr hwn gryn lawer am rinwedd meddygol y dwfr, gwnaeth ymchwiliad manol i wirionedd y peth; ac wedi cael boddhad i'w feddwl, hysbysodd am dano i'r perchenog, y diweddar William Price, Ysw., o'r Rhiwlas, yr hwn a adeiladodd yno faddon cyfleus, a thy, ar ei draul ei hun, drwy yr hyn yr adferwyd y dwfr i'w fri cynhenid." Yna y dilyn rhestr o welliadau iachaol drwy rinwedd y dwfr, sef, dallineb, defaid. gwylltion, cryd cymmalau, cloffni. Dyry yr awdwr hefyd restr chwanegol o welliadau dan ei ofal a thrwy ei gyfarwyddyd ef ei hun. Drwy y gwelliantau hynod hyn, aeth y dwfr yn glodfawr yn mhob rhan o Ogledd Cymru; ac er fod llawer yn ymweled âg ef bob blwyddyn, ychydig oedd nifer y rhai na phrofasant wellhad neillduol oddiwrtho, tra yr arferent ef mewn gradd gymmedrol a dyspwyllog yn y clefydau y mae efe yn addas iddynt; a diau iddo barhau yn ei fri o'r oesau hyny hyd. ddydd yr enwog Dafydd Ddu Eryri, fel y dengys y llinellau canlynol o'i eiddo: