Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ambell ddyn, gwaelddyn a gyrch
I bant goris Moel Bentyrch,
Mewn gobaith mai hen Gybi
Glodfawr sydd yn llwyddaw'r lli."


Priodolid hefyd i'r ffynnon hon y gallu o roddi i'r merched wybodaeth pa un a fyddai eu cariadon am eu priodi ai peidio; a thuag at hyny, gofynol oedd i'r ferch roddi ei chadach logell yn daenedig ar wyneb y ffynnon; ac os gwthid ef gan y dwfr i gyfeiriad y De, yr oedd pobpeth o dde; ond os i'r Gogledd, yr oedd argoelion annymunol o oerfelgarwch. Ond pa un bynag ai i'r De ai i'r Gogledd, ymddygai y merched at y llangciau yn hollol fel y cyfarwyddai y ffynnon hwynt.

XIX. FFYNNON LLEWELYN.

Nid yw hon ond llygedyn lled fychan o darddiad cryf, yn nghwr cors, yn Nghae'r Gors, plwyf Llangybi. Yr oedd, dywedir, yn meddu gallu gwyrthiol i wellhau Clefyd y Brenin.

XX. FFYNON GRASI.

Cyflead y ffynnon beraidd hon sydd ar du'r deheu-ddwyrain i Lyn Glasfryn, yn mhlwyf Llangybi. Cynnwysai yr ystlys ddwyreiniol iddi gareg wastadlefn ac ynddi nifer o dyllau wedi eu darparu, fel yr ymddengys, at i ddwfr dreiddio iddi. Yr oedd cauad dros ei gwyneb, a gofynol ydoedd iddi fod yn gauedig bob amser, oddigerth pan y byddid yn codi dwfr o honi, ond drwy ddifrawder esgeuluswyd y ddyledswydd o osod y cauad drosti a'r canlyniad fu, medd traddodiad, i Lyn Glasfryn lifo allan o honi, yr hwn sydd o arwynebedd eang, ac yn forwyol i fadau bychain. Adgofir yma gyffelyb ddigwyddiad yn suddiad Cantre'r Gwaelod, yn nglyn a'r hyn y dywed un gwr dysgedig y